Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Mae Mannheim ar yr afon Rhein, awr i’r de o Frankfurt.Dyma ranbarth mwyaf cynnes yr Almaen, ond gall y gaeafau fod yn eithaf oer er annhebygol y bydd hi’n bwrw eira. Mae Mannheim ymysg y sefydliadau gorau yn Ewrop am Economeg a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae’r Brifysgol yn cynnal Schlossfest (Gŵyl y Palas) bob mis Medi, lle cynhelir sawl digwyddiad ym meysydd y celfyddydau, gwyddoniaeth a cherddoriaeth. Prin yw’r llefydd mewn neuaddau i fyfyrwyr, felly byddwch yn barod i chwilio am lety oddi ar y campws a dechrau’r broses gwneud cais cyn gynted ag y bo modd. 

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.