Yr Almaen yw'r wlad fwyaf yng Nghanol Ewrop. Mae'n adnabyddus yn fyd-eang am ei chynnyrch peirianneg trachywir a thechnoleg uwch, a chaiff ei hedmygu hefyd gan ymwelwyr am ei swyn hen ffasiwn a "Gemütlichkeit" (cynhesrwydd). Mae gan y DU gysylltiadau da â'r Almaen, gyda llawer o gwmnïau awyrennau cost isel yn cynnig hediadau i'r rhan fwyaf o gyrchfannau yn y DU. Ar ôl cyrraedd yr Almaen, byddwch yn gallu teithio'n gymharol hawdd yn Ewrop. Mae gwasanaethau trên rheolaidd yn cysylltu'r Almaen â phob gwlad gyfagos - Deutsche Bahn sy'n rhedeg y rhan fwyaf ohonynt. Gallwch ddisgwyl hinsawdd gymedrol, felly dylech bacio ar gyfer diwrnodau cynnes yr haf yn ogystal â gaeafau oer.

Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol: 

Stori Myfyriwr - Yr Almaen

Myfyrwraig yn mwynhau yn yr Almaen