#PrifAbertaweBydeang

Drwy ddefnyddio'r hashnod #PrifAbertaweBydeang yn y cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe  ddefnyddio eich llun a'ch enw. Gellir defnyddio eich delwedd mewn gwaith lle efallai bydd Prifysgol Abertawe yn dymuno defnyddio'r deunydd(iau) at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd, neu i hybu masnach. Yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, defnyddir y deunydd er mwyn hybu Prifysgol Abertawe neu er budd y Brifysgol yn unig. Gallai'r deunydd hwnnw fod ar gael yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd yn hawlfraint Prifysgol Abertawe a gellid ei ddefnyddio fel y mae neu mewn cysylltiad â deunydd(iau) arall (eraill), fel rhan o waith cyfansawdd.

 

Cyflwyno astudiaethau achos a lluniau i Dîm Ewch yn Fyd-eang

Drwy gyflwyno astudiaeth achos a lluniau i Dîm Ewch yn Fyd-eang ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn rhoi'r hawl i Brifysgol Abertawe  ddefnyddio eich cynnwys, eich llun a'ch enw. Gellir defnyddio eich cynnwys mewn gwaith lle efallai bydd Prifysgol Abertawe yn dymuno defnyddio'r deunydd(iau) at ddibenion marchnata a chyhoeddusrwydd, neu i hybu masnach. Yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, defnyddir y deunydd er mwyn hybu Prifysgol Abertawe neu er budd y Brifysgol yn unig. Gallai'r deunydd hwnnw fod ar gael yn gyhoeddus am gyfnod amhenodol a bydd yn hawlfraint Prifysgol Abertawe a gellid ei ddefnyddio fel y mae neu mewn cysylltiad â deunydd(iau) arall (eraill), fel rhan o waith cyfansawdd.