Paratowch ar gyfer eich amser dramor

Cyn i chi deithio, mae'n bwysig eich bod yn ystyried  problemau mewn perthynas â'ch iechyd a'ch lles a'ch bod yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.

Yswiriant Teithio Prifysgol Abertawe
Pan fyddwch yn teithio dramor fel myfyriwr ar fusnes swyddogol Prifysgol Abertawe, bydd gennych hawl i ddefnyddio polisi yswiriant teithio cynhwysfawr y Brifysgol. Mae'r polisi'n ddilys o'r adeg rydych yn gadael eich preswylfa arferol, yn union cyn dechrau'ch cwrs, tan y daith adref yn syth ar ôl diwedd eich cwrs. Dilynwch y ddolen am fanylion y polisi yswiriant ar MyUniHub. Hefyd, mae gennych hawl i 7 niwrnod o wyliau yn unol â'r polisi, a gellir cymryd y rhain yn union cyn eich cyfnod astudio, yn ystod eich cyfnod astudio neu'n union ar ei ôl yn unig. Eich cyfrifoldeb chi yw darllen y polisi hwn a chadarnhau ei fod yn diwallu'ch anghenion penodol. Os nad yw'n gwneud hynny, yna bydd yn rhaid i chi brynu yswiriant atodol. Os penderfynwch ymestyn eich cyfnod dramor, bydd yn rhaid i chi brynu yswiriant teithio ychwanegol.

Argyfwng Meddygol Dramor
Os bydd gennych argyfwng meddygol yn ystod eich cyfnod dramor, ac os bydd angen cymorth meddygol drwy'r yswiriant teithio a ddisgrifir uchod, bydd yn rhaid i chi, neu rywun ar eich rhan, gysylltu â Global Response, a fydd yn helpu gyda biliau ambiwlans/ysbyty. Darperir 

manylion cyswllt yn y polisi yswiriant teithio. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae'n bosib y bydd yr yswiriant teithio uchod yn ddi-rym. 

Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU
Os ydych yn astudio yn Ewrop, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU i fyfyrwyr. Ni ellir cwblhau ceisiadau ar-lein neu dros y ffôn. Byddwn yn rhoi llythyr i chi a bydd yn rhaid i chi ei gyflwyno gyda'ch cais gan y bydd hwn yn cadarnhau'r canlynol:

  • enw a chyfeiriad y sefydliad addysgol yn y DU
  • cyfeiriad lle byddwch yn astudio dramor
  • manylion y cymhwyster eich bod yn astudio ar ei gyfer
  • dyddiad dechrau eich cwrs
  • dyddiad y disgwylir i chi orffen eich cwrs

Ceir rhagor o wybodaeth am y cais ar wefan y Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang y DU i fyfyrwyr.

Cysylltu â'ch meddyg teulu
Os oes gennych gyflwr meddygol hirdymor, sicrhewch fod gennych lythyr gan eich meddyg teulu/ysbyty sy'n dweud eich bod yn ddigon iach i deithio; dylech bob amser fynd â rhestr o'ch meddyginiaeth hanfodol gyda chi hefyd. Os oes gennych bresgripsiwn rheolaidd neu os ydych yn cymryd  meddyginiaeth yn rheolaidd (gan gynnwys dulliau atal cenhedlu), trafodwch sut i gael eich presgripsiwn dramor â'ch meddyg teulu. Cofiwch y gall enwau masnachol a dognau meddyginiaeth amrywio dramor. Os ydych yn mynd i Ewrop, trefnwch i unrhyw ddogfennau iechyd pwysig gael eu cyfieithu.

Brechiadau ac Imiwneiddiadau
Dylech sicrhau eich bod yn cael yr holl frechiadau angenrheidiol sy'n berthnasol i'r wlad lle byddwch yn byw, gan gynnwys  gwledydd rydych yn bwriadu teithio iddynt yn ystod y gwyliau. Dylech fynd i wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad i weld y rhestr ddiweddaraf o'r brechiadau gofynnol, ynghyd â gwybodaeth gyffredinol bwysig am deithio.

Cymorth Ychwanegol

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch ar gyfer eich cyfnod dramor, cofiwch gysylltu â'r gwasanaeth perthnasol yma ym Mhrifysgol Abertawe ymhell cyn eich taith. Efallai y byddwch am gysylltu â'r Gwasanaeth Anableddau neu'r Gwasanaethau Lles ar y campws.