Myfyriwr yn codi arian o beiriant darparu arian

Mae nifer o fwrsariaethau a grantiau gwahanol ar gael i'ch helpu gyda chostau eich cyfnod dramor, i gynorthwyo gyda chostau teithio, ffioedd llety a threuliau beunyddiol cyffredinol. Bydd y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n mynd a pha mor hir y byddwch yn aros yno. Ceir manylion llawn am bob bwrsariaeth isod. Sylwer y gall symiau'r bwrsariaethau amrywio bob blwyddyn.