Myfyrwyr yn cydweithio

Lleolir y brifysgol yn Bamberg yn Bafaria, awr i'r gogledd o Nuremburg ac o dan ddwy awr o'r ffin â'r Weriniaeth Tsiec. Mae rhan fawr o'r dref wedi'i datgan yn safle treftadaeth y byd UNESCO. Mae'r gaeafau'n oer gyda thymereddau o dan y rhewbwynt ac mae'r hafau'n gynnes ar y cyfan. Mae digon o weithgareddau awyr agored y gall myfyrwyr gymryd rhan ynddynt i ffwrdd oddi wrth y brifysgol. Gall myfyrwyr fyw mewn neuaddau preswyl ond ni ellir gwarantu lle yn un o'r neuaddau hyn ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr chwilio am lety preifat.