Myfrywyr yn astudio gyda'i gilydd

Lyon, sef prifddinas rhanbarth Rhone-Alpes, yw'r drydedd ddinas fwyaf yn Ffrainc. Mae'n adnabyddus fel dinas gastronomegol a hanesyddol gyda sîn ddiwylliannol fywiog, a dyma hefyd oedd man geni'r sinema. Cynhelir llu o ddigwyddiadau yn Lyon drwy gydol y flwyddyn, yn amrywio o ddigwyddiadau diwylliannol i chwaraeon, gan roi cyfle i fyfyrwyr ymgolli ym mywyd coleg yn Lyon III. Mae amrywiaeth o opsiynau llety ar gael, a gall myfyrwyr cyfnewid gysylltu â Chymdeithas Ryngwladol Lyon III sy'n helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lety mewn neuaddau preswyl CROUS, preswylfeydd preifat neu gyda theulu lleol.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.