Mae'r Gwasanaethau Preswyl yn rhan o'r Gwasanaethau Myfyrwyr, sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich amser yn y Brifysgol, p'un a ydych yn byw yn ein preswylfeydd ai peidio.
Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, o gymorth ariannol i les, a mwy, cliciwch yma ar gyfer y Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr.
Os nad ydych yn hapus yn ein llety, gallwch siarad â rhywun a all gynnig cymorth, cyngor neu gefnogaeth.
Pa ddewisiadau sydd ar gael?
Yn y lle cyntaf, siaradwch â'ch:
Dylech roi gwybod i Dderbynfa'r safle am y broblem, neu cofnodwch y broblem yn y system atgyweiriadau ar-lein.
- Os yw'n broblem am eich Contract Llety:
Gan gynnwys eisiau newid ystafell, tynnu'n ôl neu ohirio astudiaethau a cheisiadau am ryddhau, dylech gysylltu â'r Swyddfa Llety a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol. Cliciwch yma i gysylltu â ni neu cliciwch yma i lawrlwytho'r ffurflen berthnasol
Os ydych am gwyno, cyflwynwch y gŵyn yn ysgrifenedig er mwyn i ni allu ymchwilio i unrhyw broblemau sydd gennych. (Ff9) Ffurflen Gwyno Mae angen i'r person dan sylw ei chyflwyno yn bersonol.
- Mewn Llety yn y Sector Preifat?
Os ydych mewn llety preifat, gall Undeb y Myfyrwyr gynnig cyngor a chymorth diduedd.
Cysylltwch â Chanolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr drwy ffonio +44 (0)1792 295 821 neu e-bostio advice@swansea-union.co.uk neu alw heibio un o'r swyddfeydd ar y campws. Gallant roi arweiniad ar unrhyw faterion ynghylch tai ar gyfer y flwyddyn academaidd hon neu'r flwyddyn nesaf.