Mae gan Ganolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr dîm o ymgynghorwyr hyfforddedig sy’n gallu darparu cyngor a chynrychiolaeth diduedd a chyfrinachol am ddim i chi, yn annibynnol ar y Brifysgol.
Gallan nhw eich cefnogi drwy nifer o faterion cyfreithiol a phersonol, gan gynnwys materion ariannol, lles, academaidd, tai, aflonyddu a thrais rhywiol.
Maen nhw’n cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â nhw:
E-bost: advice@swansea-union.co.uk
Ffôn: 01792 295 821
Sesiynau Zoom heb apwyntiad: 9.30am i 12.00pm bob dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener Meeting Id 712 079 3003. Byddwch yn mynd i mewn i ystafell aros ddigidol nes bod ymgynghorydd ar gael i siarad â chi.