Enillwyr

Ar 16 Mai 2019, yn adeilad hanesyddol a godidog Neuadd y Ddinas Abertawe, cydnabuwyd cyflawniadau'r grŵp o adolygwyr llyfr dawnus eleni. Bu disgyblion a myfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled Abertawe, yn ogystal â myfyrwyr o Brifysgol Abertawe, yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth 2019, gan lunio adolygiadau huawdl, meddylgar a theimladwy o'r llyfrau ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2019.

Clywodd yr ymgeiswyr disglair ar y rhestr fer y darllenwyr ifanc yn rhoi sylwadau rhyfeddol o dreiddgar ar eu gwaith. Canmolodd yr Athro John Spurr (Pennaeth Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau Abertawe) a Dai Smith (Pennaeth panel beirniaid Gwobr Dylan Thomas) gyfranogiad parhaus ysgolion de Cymru yn rhaglen DylanED a'r adolygiadau a dderbyniwyd. Cyflawnodd Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd David Phillips, ei ddyletswydd siarad olaf yn Faer, gan siarad am dreftadaeth lenyddol gyfoethog y ddinas a'i falchder personol wrth weld ei pharhad drwy raglenni megis DylanED. Cynrychiolodd Trefor Ellis (mab yng nghyfraith Dylan Thomas) deulu’r awdur a chyflwynodd y gwobrau i'r enillwyr haeddiannol.

Dyma'r canlyniadau:

Categori Ysgolion a Cholegau

Clod Uchel - Efa Bowen am ei hadolygiad o Friday Black gan Nana Kwame Adjei-Brenyah. Dyma linell agoriadol ei hadolygiad: ‘Captivatingly strange and escalating from the ordinary everyday situations to horrific violence, Adjei-Brenyah’s startling debut will confound and terrorise all who read it.’

Cydradd 3ydd - Adolygiad Cara Davies o Melmoth  gan Sarah Perry. Fel hyn y dechreuodd ei hadolygiad: ‘Follow the flawed protagonist Helen Franklin on her emotional journey into forgiving herself for the unforgivable.’ 

Cydradd 3ydd - Adolygiad Caitlin Grigg-Williams o Friday Black gan Nana Kwame Adjei-Brenyah. Fel hyn y disgrifiodd Caitlin stori fer y teitl: ‘a captivating story, though it’s hard to choose a favourite of the stories, this magical realist world personally captivated me. It humorously explores the American mall-culture through the event of ‘Black Friday’ at the centre of the chaos of a stampede of tumultuous and frenzied shoppers.’

Ail Wobr - Adolygiad Rhianna Rees o lyfr Novuyo Rosa Tshuma, House of Stone, a ddisgrifiwyd ganddi fel a ganlyn: ‘a captivating tale and an entire year’s worth of history lesson, all rolled into one harrowing book – and it is fantastic!’

Y Wobr 1af: Adolygiad Megan Phillips o Trinity gan Louisa Hall. Mae adolygiad Megan yn gorffen fel a ganlyn:  ‘The novel makes us question the way in which we perceive others, and in turn ourselves, as we ask how confidently we can truly know someone while hiding from the truth in our own lives. A thought-provoking and cleverly ambiguous tail of trust, destruction, paranoia and hope, Louisa Hall effortlessly captures the uncertainty and precariousness of a world and a man trying to salvage the wreckage they left behind.’


Categori Myfyrwyr Prifysgol Abertawe


Clod Uchel - Adolygiad Janet Davies o lyfr Guy Gunaratne, In Our Mad and Furious City. Mae hi'n ysgrifennu: ‘Gunaratne’s characters are imperfect beings, evoking both sympathy and criticism.’

3edd Wobr - Adolygiad John Baddeley o Friday Black gan Nana Kwame Adjei-Brenyah. Dyma sylwadau John:  Friday Black is enormous. Not literally, but its themes are contemporary, raw and they feel substantial. Consumerist culture is critiqued through shoppers willing to kill for the latest Parka. Institutionalised racism is disturbingly shown through a theme-park. Many more themes are as frankly confronted and throughout all stories Adjei-Brenyah’s command of prose remains exquisite and honest.’

Ail Wobr - Adolygiad Dawn Thomson o Trinity gan Louisa Hall. Fel hyn mae Dawn yn disgrifio'r nofel: Vast in scope and yet intimate in the personal stories it combines, this novel succeeds at both macrocosmic and microcosmic levels.’

Gwobr 1af - Adolygiad Polly Manning o Folk  gan Zoe Gilbert. Mae Polly yn esbonio,
‘…don’t be fooled into thinking this collection of stories is whimsical. With a sensual appreciation of nature, and borrowing from the folk history of the Isle of Man, Gilbert crafts stories which feel simultaneously age-old and modern.’


Cliciwch yma i ddarllen yr holl adolygiadau buddugol eleni

Gellir gweld mwy o luniau yma.