Mae'r llyfrgell yn cefnogi'r brifysgol yn ei hamcanion i wireddu potensial pob myfyriwr ac aelod staff beth bynnag ei nodwedd warchodedig (oed, rhyw, hil, ailbennu rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, priod neu mewn partneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd a chred). Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu fod angen cymorth arnoch chi, croeso i chi gysylltu â ni:

  • E-bostiwch dîm Llyfrgell MyUni
  • Ffoniwch ni: 01792 606400
  • Ymwelwch â Desg y Llyfrgell yn unrhyw un o'n llyfrgelloedd campws: Campws y Bae, Parc Singleton, Llyfrgell Glowyr De Cymru neu Barc Dewi Sant (Caerfyrddin)

Gall myfyrwyr efallai y byddai derbyn cymorth ychwanegol o fudd iddynt, ddefnyddio ein gwasanaeth LibraryPlus.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bob myfyriwr ond cafodd ei sefydlu, yn benodol, i ddiwallu anghenion y rhai sy'n fyfyrwyr rhan-amser, yn byw yn bell i ffwrdd, yn ddysgwyr yn y gweithle, yn fyfyrwyr ar leoliad, yn fyfyrwyr anabl neu'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofal. Gweler ein tudalen we LibraryPlus i ganfod gwybodaeth bellach.