Yn unol â chanllawiau cyfredol mae'n dal rhaid i ni leihau'r nifer o bobl sy'n ymweld â'r brifysgol le bynnag y bo'n bosib. Gofynnwn i chi dychwelyd eitemau i'r llyfrgell dim ond os nad ydynt yn cymwys i gael eu hadnewyddu yn awtomatig, e.e. oherwydd bod yr eitem wedi'i hadalw gan ddefnyddiwr arall y llyfrgell, neu os nad oes unrhyw ffordd gennych o gadw'r eitemau gyda chi e.e. oherwydd eich bod yn gadael Abertawe yn barhaol.
Mae ardaloedd dynodedig ar gyfer dychwelyd eitemau trwy hunanwasanaeth wedi'u lleoli o fewn mynedfa Llyfrgell Parc Singleton, Llyfrgell y Bae, Llyfrgell y Glowyr De Cymru a Llyfrgell Parc Dewi Sant. Cyfeiriwch at yr arwyddion lleol a dilynwch y cyfarwyddiadau sydd mewn lle.
Gallech ddychwelyd eitemau i unrhyw un o'r Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe canlynol, pa un bynnag o'r pum llyfrgell wnaethoch eu benthyg o yn wreiddiol:
- Llyfrgell Parc Singleton
- Llyfrgell y Bae
- Llyfrgell Glowyr De Cymru
- Llyfrgell Banwen
- Llyfrgell Parc Dewi Sant
Gwiriwch yr oriau agor cyfredol ar gyfer y llyfrgell rydych chi am ymweld â hi. Ni ellir dychwelyd eitemau i'r llyfrgell tra bod yr adeiladau ar gau.
Yn sgil rheoliadau Covid-19, gall holl eitemau llyfrgell a dychwelwyd bod yn destun cyfnod cwarantin cyn y gallant gael eu trin gan staff y llyfrgell, eu tynnu o'ch cyfrif llyfrgell neu eu rhoi ar gael i ddefnyddwyr eraill.
Ni ellir dychwelyd yr eitemau canlynol trwy'r terfynellau hunan-ddychwelyd electronig:
- Gliniaduron ac offer TG neu glyweledol arall
- Disgiau meddalwedd
- Allweddi ystafell
- Eitemau benthyciad byr
- Benthyciadau rhyng-lyfrgell
- DVDs aml-ddisg
- Llyfrau gyda disgiau cysylltiedig
Codir dirwyon os ydych yn dychwelyd eitemau ar ôl y dyddiad dychwelyd. Mae dirwyon hwyr yn berthnasol i bob dosbarth benthycwyr, gan gynnwys staff academaidd.