Mae’r llyfrgell yn cynnig gwasanaeth Cais a Chasglu newydd er mwyn rhoi i fyfyrwyr presennol a staff fynediad hawdd i lawer o’n heitemau.

Gellir gwneud cais am eitemau ar-lein neu drwy gysylltu â thîm Llyfrgell MyUni.

Gallwch wneud cais am eitem ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif iFind a chwilio am yr eitem sydd ei angen arnoch. Wedi i chi dod o hyd i'r eitem yn y rhestr o ganlyniadau, cliciwch ar y teitl i agor y cofnod llawn. Os ydy'r eitem yn gymwys, byddwch yn gallu gwneud cais am yr eitem a dewis eich lleoliad casglu.

Sylwch: rhaid eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif iFind er mwyn i'r opsiwn Cais ymddangos ar gofnod yr eitem.

Croeso i chi gysylltu â thîm Llyfrgell MyUni os oes angen unrhyw cymorth pellach arnoch gyda gwneud ceisiadau neu gael mynediad at ddeunyddiau llyfrgell.

Gweler isod am wybodaeth am gasglu eitemau a gofynnwyd amdanynt o'ch llyfrgell ddewisedig.