nicola gray

Fy nhaith trwy Iechyd Meddwl a Lles o ganlyniad i bandemig Covid-19

Rwy’n llawn balchder i wybod mai ni yw un o’r gweledydd cyntaf, os nad y wlad gyntaf, yn y byd i arfogi ein hunain...

"Wrth i ni wynebu canlyniadau pandemig Coronafeirws mae angen i ni ystyried a fyddwn yn wynebu llwyth o broblemau iechyd meddwl. A fydd effaith economaidd colli swyddi yn arwain at lawer o bobl yn profi iechyd a lles meddwl sy’n gwaethygu neu hyd yn oed geisio hunanladdiad? Neu ydyn ni fel poblogaeth Geltaidd yn fwy gwydn o ran yr achosion straen hyn sy’n bygwth ein ffordd o fyw? Dyma’r cwestiynau a ysgogodd i mi ddechrau ymchwil i faes pandemig Covid-19 a chanlyniadau iechyd meddwl y pandemig.

Mae pandemig Covid-19 wedi dysgu i ni fod penderfyniadau ar sail data yr un mor bwysig ym maes iechyd meddwl ag yr ydynt mewn systemau iechyd corfforol profi ac olrhain, yn enwedig gan fod gwasanaethau iechyd meddwl y GIG a phartneriaid y trydydd sector yn ystyried sut i gefnogi lles poblogaeth Cymru. Mae ein Harolwg o Les Pandemig Covid-19 Cymru yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Rwyf yn rhan o dîm Prifysgol Abertawe sy’n gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a’r GIG yng Nghymru i werthuso iechyd meddwl a lles poblogaeth Cymru. Mae’n gydweithrediad unigryw sydd hefyd wedi dod â ni ynghyd â sefydliadau ymatebwyr cyntaf a phartneriaid o’r trydydd sector. Rwy’n gyffrous mai Cymru yw’r wlad gyntaf, hyd y gwn i, sydd wedi cynnal gwerthusiad mor fanwl yn sgil pandemig Covid-19. Mae Cymru yn genedl fach ond mae ei phoblogaeth yn cynnwys pobl gref, arloesol a dyfeisgar â chanddynt draddodiad diwylliannol cadarn o ysbryd cymunedol yn ogystal â bod yn fan geni sylfaenydd y GIG. Lluniwyd ein harolwg i helpu’r GIG ac asiantaethau partner i gynllunio ar gyfer newidiadau ym maes iechyd meddwl a lles er mwyn i ni allu gosod gwasanaethau cymorth yn y lleoedd y mae’r angen mwyaf amdanynt. 

Gallwn ni ond wneud hynny os ydym yn ymwybodol o’n sefyllfa cyn y pandemig ac rydyn ni’n defnyddio’r data a gasglwyd gan yr Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus yn 2019 er mwyn i ni allu edrych ar y sefyllfa les yng Nghymru cyn pandemig Covid-19 ac ar ôl pandemig Covid-19. Nid oes gwerth mewn darganfod bod 20% o fenywod ifanc yn Abertawe wedi profi iselder yn ystod y pandemig oni bai eich bod chi hefyd yn gwybod bod 19% ohonynt wedi profi iselder cyn y pandemig. Mae angen i ni werthuso newid mewn lles oherwydd y Coronafeirws er mwyn i ni allu gosod y strwythurau cymorth angenrheidiol mewn lle a helpu pobl i ymdopi â’r newid hwnnw. Rydyn ni hefyd wedi caniatáu dadansoddi gronynnog er mwyn i ni allu gwerthuso anghenion lles fesul rhanbarth, oedran, ethnigrwydd, rhywedd, sector megis math o gyflogaeth, a fesul mynegai amddifadedd. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu ein cymorth ychwanegol gan sicrhau manylder go iawn. Gan edrych ymlaen rydym yn bwriadu dilyn ein sampl trwy gyfnodau gwahanol y pandemig: o’r cyfnod cyfyngiadau symud, i’r cyfnod adfer, efallai trwy ail don o haint, dirwasgiad ac, yn bennaf, yn ôl i adferiad.

Bydd modd i ni fapio lles y boblogaeth trwy gydol y cyfnodau hyn ac mae dyluniad hydredol yr arolwg yn ein galluogi ni i werthuso’r strategaethau ymyrraeth a ddefnyddir. Rwy’n llawn balchder i wybod mai ni yw un o’r gweledydd cyntaf, os nad y wlad gyntaf, yn y byd i arfogi ein hunain trwy set ddata fawr a manwl sy’n cynnwys dros 15,000 o bobl sy’n byw ac sy’n gweithio yng Nghymru. Bydd hyn yn caniatáu i ni fynd i’r afael â’r gelyn newydd sef Coronafeirws a phopeth sy’n ei ddilyn. Fel y dywedir, gwybodaeth yw grym a gwyddoniaeth yw ein dull i gael mynediad at yr wybodaeth hon. Mae angen gwyddoniaeth arnom ni i frwydro yn erbyn canlyniadau corfforol y clefyd ac er mwyn lleihau cyfraddau’r heintio. Fodd bynnag, mae hefyd angen gwyddoniaeth arnom ni i’n helpu i fynd i’r afael â chanlyniadau iechyd meddwl a lles yr her hon ar gyfer pobl Cymru. Dyma sut gallwn ni sicrhau ein bod yn parhau i fod y wlad gref, wydn a gofalgar yr ydym yn ei hadnabod ac yn ei charu."

Darllenwch fwy am yr arolwg.