Michelle Owen. Newyddiadurwr Chwaraeon
BA Iaith a Chyfathrebu. Dosbarth 2011

Torri tir newydd

Michelle Owen ar chwalu stereoteipiau a thorri tir newydd ym maes newyddiaduraeth pêl-droed

Mae tirlun y cyfyngau wedi newid yn drawiadol dros y blynyddoedd diwethaf. Gan feddwl yn ôl at fy amser ym Mhrifysgol Abertawe, doedd hi ddim yn arferol gweld na chlywed menywod ar y teledu nac ar y radio yn siarad am bêl-droed... a wir i chi, dw i ddim mor hen â hynny!

Pan oeddwn i yn y brifysgol, roedd yn gynhwysol ac yn groesawgar. Roedd chwarae pêl-droed yn normal. A dweud y gwir, gallech chi wneud ffrindiau gwych drwy'r gêm. Roedd tîm cyntaf y menywod yn hollol wych hefyd, gyda chwaraewyr gwych. Mwynheais i wirfoddoli i Xtreme Radio a phapur newydd y myfyrwyr hefyd, a thrwy hynny sylweddolais i efallai byddai’n bosib gwireddu fy uchelgais.

Pan adawais i'r brifysgol, roedd gen i lwyth o brofiad gwaith a phrofiad gwirfoddoli yn yr ardal leol, nid yn y brifysgol yn unig, ond gyda radio ysbyty a chymunedol a phapurau newydd lleol hefyd. Ces i fy swydd gyntaf yn gweithio ar y radio lle'r oeddwn i wedi gwirfoddoli wrth astudio. Roeddwn i wrth fy modd yno ond bu'n rhaid i mi weithio'n rhywle arall i gadw dau ben linyn ynghyd. oherwydd roedd y tâl mor wael â hynny!

Roeddwn i'n awyddus i fod yn rhan o'r sioe pêl-droed ond bob tro cynigais i, ces i fy ngwrthod. Tri dyn canol oed ac un dyn ifanc oedd ar y sioe. Dim lle, mae'n debyg. Yn y diwedd, gwnaethon nhw ildio, gan adael i mi fynd i gemau yn fy amser fy hun i gasglu adroddiadau wedi'r gêm ac adrodd yn ôl o'r gynhadledd i'r wasg. Roedd y profiad hwn yn hynod werthfawr ond hefyd braidd yn frawychus. Fi oedd yr unig fenyw yn yr ystafelloedd hynny i'r wasg bron bob amser, doeddwn i ddim yn adnabod neb ac roeddwn i'n teimlo'n anghyfforddus. I rywun sy'n gwneud beth rwy’n ei wneud, efallai bydd yn synnu pobl y gallaf fod ychydig yn swil yn y sefyllfaoedd hynny, ond mae fy hyder wedi tyfu o'i wneud yn amlach. Pe tawn i wedi gweld menyw arall, efallai byddai wedi bod yn haws tybed?

"Fi oedd yr unig fenyw yn yr ystafelloedd hynny i'r wasg bron bob amser, doeddwn i ddim yn adnabod neb ac roeddwn i'n teimlo'n anghyfforddus. Pe tawn i wedi gweld menyw arall, efallai byddai wedi bod yn haws tybed?”

Dechreuais i ohebu ar Soccer Saturday tra'r oeddwn i'n dal i weithio ar y radio, ac wrth fynd i fwy o gemau a dod i adnabod y wynebau, dechreuais ennill mwy o barch. Wnaeth hynny ddim atal newyddiadurwr arall rhag gofyn i mi a oeddwn i’n teimlo dylwn i fod yn y gegin rhyw dro, neu wrth i bobl ddechrau adnabod fy wyneb yn fwy, rhai cefnogwyr rhag gweiddi arnaf i gael fy mronnau allan, neu dynnu fy nghoes am gael bag llaw. Ie, bag llaw.

11 mlynedd ers hynny, ac ers camu i fyd pêl-droed, rwy’n cael fy nhrin yn hollol wahanol erbyn hyn. Mae mwy o fenywod yn weladwy ac mae mwy o amrywiaeth. Mae angen i ni ymdrechu i gael y bobl orau yn y swydd. Mae pobl yn honni bod ‘tokenism’ ar waith pan fo’n anochel bod pawb yn gwneud camgymeriadau, ond rwy'n hyderus bod darlledwyr o hyd yn dewis ar sail gallu yn hytrach na rhyw. Mae pobl wedi agor eu llygaid i sylweddoli efallai fod menywod yn gwybod am beth maen nhw'n siarad...