Pryd taniwyd eich angerdd am bêl-droed / chwaraeon?

Byth ers y gallaf gofio. Does gan fy rhieni na fy nheulu ddim diddordeb mewn pêl-droed, ond fe wnes i, yn syml, gymryd at y gêm a dechreuais chwarae pan oeddwn yn 3 oed.

Sut dechreuodd eich gyrfa ym maes darlledu chwaraeon?

Stori hir yn fyr, dechreuais wirfoddoli ar gyfer gorsafoedd radio a phapurau newydd lleol i'm cartref yng nghanolbarth Cymru pan oeddwn yn 16 oed. Pan ddes i'r brifysgol, bues i'n rhan o radio'r myfyrwyr a'r papur newydd hefyd, ochr yn ochr â radio cymunedol a radio ysbyty. Bûm yn gweithio yn bennaf ar fy sgiliau cyflwyno, ond hefyd ar newyddiaduraeth a darlledu chwaraeon. Fe wnes i hefyd lwyth o brofiad gwaith dros y lle gan gynnwys gyda Sky. Roeddwn yn 21 oed pan gefais swydd gyda gorsaf radio leol a chyflwyno sioe chwaraeon yno a rhoi sylw i gemau Dinas Caerdydd a Dinas Abertawe hefyd. Dechreuais i weithio i Sky Sports yn 2014.

"Roedd dod â thlws cynghrair y pencampwyr yn ôl o'r Swistir i Gaerdydd ar awyren breifat gydag Ian Rush yn anhygoel!"

Beth fu uchafbwynt eich gyrfa yn gweithio ym maes darlledu chwaraeon?

Mae nifer yn dod i'r meddwl - roedd dod â thlws cynghrair y pencampwyr yn ôl o'r Swistir i Gaerdydd ar awyren breifat gydag Ian Rush yn anhygoel! Hefyd gohebu ar y gêm wallgo Aston Villa 5 Nottingham Forest 5!

Oes gennych chi unrhyw gynlluniau neu uchelgeisiau ar gyfer gweddill y flwyddyn hon?

Ar hyn o bryd – dim ond mynd yn ôl i'r gwaith pan fo'n ddiogel i wneud hynny!

"Roeddwn wrth fy modd yn Abertawe!"

Fe wnaethoch chi raddio o Brifysgol Abertawe yn 2011, sut mae eich gradd wedi eich helpu chi yn ystod eich gyrfa?

Gwnaethom fodiwl ar ddarlledu a oedd yn ddefnyddiol. Does dim dwywaith bod bywyd ac amgylchedd y brifysgol wedi fy ngorfodi i aeddfedu a phenderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud, yn enwedig o ran yr orsaf radio a'r papur newydd. Roeddwn wrth fy modd yn Abertawe!

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyriwr graddedig sydd eisiau dechrau gyrfa mewn chwaraeon?

Ceisiwch gael cymaint o brofiad gwaith ag y gallwch, dyna'r ffordd rydych chi'n meithrin cysylltiadau ac ennill gwybodaeth ar hyd y ffordd hefyd. A byddwch eich hunan!