Paul Pindar.

BSc Seicoleg. Blwyddyn Graddio 1981. Entrepreneur. Arweinydd Busnes Capita.

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, ymunodd Paul â chwmni cyfrifwyr Coopers & Lybrand. Ar ôl cymhwyso fel cyfrifydd, ymunodd â'r cwmni ecwiti preifat 3i fel rheolwr buddsoddiadau.

Aeth Paul ymlaen i ymuno â Capita ym 1987 a gweithio’i ffordd drwy’r cwmni i fod yn Brif Weithredwr ym 1999.  Erbyn i Paul adael Capita yn 2014 roedd y cwmni’n cyflogi 62,000 o bobl a’i werth ar y farchnad oedd £7,5 biliwn.

Yn ystod ei yrfa, bu Paul hefyd yn Gyfarwyddwr anweithredol Debenhams, Cadeirydd anweithredol Integrated Dental Holdings (y gadwn fwyaf o bractisau deintyddol yn y DU) a Chadeirydd Gwasanaethau Clinigol Annibynnol. Roedd Paul hefyd yn fuddsoddwr cynnar yn Purple Bricks, yr asiantaeth dai ar-lein ac fe ddaeth yn Gadeirydd anweithredol ar ôl ei IPO cychwynnol.

Ar hyn o bryd mae Paul ar Uwch Fwrdd Cynghori Towerbrook Capital Partners.