Geoffrey Thomas.

BSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1962. Ysgolhaig. Addysgwr.

Graddiodd Geoffrey Thomas o Brifysgol Abertawe gyda gradd anrhdedd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg. O Abertawe, aeth i Goleg Churchill, Caergrawnt i gwblhau ei PhD. Yn dilyn blwyddyn fel cymrawd ymchwil yn Labordy Cavendish, dychwelodd Geoffrey i Abertawe fel tiwtor staff, lle y bu am 12 o flynyddoedd.

Ym 1978, symudodd i Rydychen fel cymrawd Coleg Linacre ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr yr Adran Astudiaethau Allanol. Ym 1986, daeth Geoffrey’n Gyfarwyddwr Adran Addysg Barhaus Prifysgol Rhydychen. Erys yn gymrawd Coleg Linacre tan 1990 lle ddaeth yn Llywydd cyntaf Coleg Kellogg, Rhydychen.

Bu Geoffrey’n ysgolhaig gwadd yn Sefydliad Smithsonian, Prifysgol Harvard, Prifysgol Washington, Prifysgol California, Prifysgol Berkley a Gogledd Illinois. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Addysg Uwch Cymru, Cymdeithas Brydeinig dros Ddatblygu Gwyddoniaeth. Mae Geoffrey hefyd yn Gadeirydd Global Teacher Education Inc, Sefydliad yn yr UD dros hyrwyddo addysg fyd-eang. Yn 2014, cafodd ei ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.