Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe a pham astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth?

Roeddwn i'n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr.

Beth yw eich prif atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe?

Cael fy nysgu gan ddarlithwyr cwbl ragorol, y ffrindiau a wnes i yn y brifysgol a'r llu o weithgareddau chwaraeon y gwnes i gymryd rhan ynddynt.

Jason Mohammad.

"Ni (Yr Athro Hywel Teifi Edwards)welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a 'dysgwyr ail iaith'."

Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe?

Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a “dysgwyr ail iaith”. A dyna lle y cafodd fy hyder ei feithrin.

Pam dewis gyrfa mewn darlledu?

I fod yn berffaith onest, dyna'r unig beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i'n arfer chwarae recordiau Queen, ABBA a 10cc pan oeddwn i'n ddim ond pum mlwydd oed, felly roedd yn anochel y byddwn yn  mynd i weithio i BBC Radio 2 a BBC Radio Wales! Roeddwn i hefyd yn arfer sylwebu ar gemau fideo ‘nôl yn yr 1980au - gemau fideo chwaraeon - felly mae'n debyg nad oedd gyrfa mewn chwaraeon teledu yn gam annisgwyl chwaith.

Mae’n flin gennym ond nid oes fersiwn Gymraeg o’r fideo hwn.

"Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw."

A wnaeth eich cyfnod yn y Brifysgol eich helpu i gychwyn gyrfa mor llwyddiannus mewn darlledu ydych chin meddwl?

Yn sicr. Fe wnes i gyfarfod â chynghorydd gyrfaoedd, Mr Hugh Jones, pan oeddwn yn ymgeisio am gwrs ysgol newyddiaduraeth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe anogodd fi i fynd amdani. Enillais ysgoloriaeth gyda BBC Cymru ac mae'r gweddill yn hanes. Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw.

Beth yw uchafbwynt eich gyrfa (hyd yma!)?

Heb amheuaeth, derbyn yr e-bost gan fy nghynhyrchydd i ddweud fy mod i'n mynd i fod yn rhan o'r tîm cyflwyno ochr y cae ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil rhwng yr Ariannin a'r Almaen.

Pwy yw’r person mwyaf diddorol i chi gwrdd â nhw a pham? / Who has been the most interesting person youve met and why?

Mae’n rhaid i fi ddweud Al Pacino. Gwnes i ei gyfarfod yn 2008 wrth weithio ar ddarllediad un o ornestau Joe Calzaghe yn Las Vegas. Rwy wrth fy modd gyda ffilmiau ac mae cael ‘high five’ a braich rownd fy ysgwydd gan y chwedlonol Mr Al Pacino yn uchafbwynt gyrfa.

Rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. Pa un oedd eich hoff wlad?

Rwsia. Teithiais ledled y wlad yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2018 a chefais fy hudo yn llwyr gan yr hanes, y bensaernïaeth ysblennydd a'r bwyd arbennig.

"Rwyf wedi bod mor ffodus fy mod wedi cael fy mendithio drwy gael athrawon, darlithwyr a chynhyrchwyr gwych sydd wedi fy helpu...Yn y pen draw, mae fy ffydd wedi rhoi’r grym a’r gallu i fi i lwyddo."

Pwy wnaeth eich ysbrydoli chi - pan oeddech chi’n iau ac yn ystod eich gyrfa?

Rwyf wedi bod mor ffodus fy mod wedi cael fy mendithio drwy gael athrawon, darlithwyr a chynhyrchwyr gwych sydd wedi fy helpu, ond trwy gydol fy ngyrfa, fy ysbrydoliaeth yw fy arwr chwaraeon Muhammad Ali. Mae ei ddyfyniad sy’n dweud bod ‘“angen cael y ddawn A’R ewyllys” ar fy wal ac rwy’n edrych arno bob dydd. Yn y pen draw, mae fy ffydd wedi rhoi’r grym a’r gallu i fi i lwyddo.