Digrifwr, awdur a darlledwr yw Chris Corcoran, neu "Korkey". Ar ôl graddio ym 1993 gyda gradd BA mewn Hanes a Gwleidyddiaeth, daeth Chris yn athro hanes. Fodd bynnag, cafodd ei ddenu at gomedi a doedd hi ddim yn hir nes i Chris gael ei gyfle mawr yn cefnogi Rob Brydon ar ei daith o amgylch Cymru yn 2009. Yn 2010 aeth â’i sioe “What Goes On Tour, Stays On Tour” o amgylch y wlad a hefyd perfformio fersiwn ohoni yng Ngŵyl Fringe Caeredin.

Roedd Korkey yn gyd-gyflwynydd rheolaidd ar sioe Rhod Gilbert ar BBC Radio Wales, a bu hefyd yn cyflwyno’i sioe ei hun ar brynhawniau Sadwrn. Cafodd rôl yn cefnogi’r pypedau enwog Dib-Dab, Scribble a Stick, yn sioe CBeebies Doodle Do. Mae ei gredydau ysgrifennu yn cynnwys y gyfres Man Down i Channel 4 a chyfres wedi’i hanimeiddio o’r cymeriadau enwog Beano Dennis & Gnasher Unleashed.

Mae ei atgofion am ei gyfnod ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys: yr amser teithio ar hyd y blaen ger y môr i'r campws yn amrywio yn dibynnu ar y gwynt – teithio tuag at y gwynt tuag awr, gyda’r gwynt tua naw munud; llety a thafarndai dan eu sang ar hyd ‘Milltir y Mwmbwls’ a chyrchfan mawreddog ar y diwedd, sef clwb nos Cinderella; prynu pum cacen o'r siop fara leol, achos gwerthiant, a'u bwyta i gyd mewn un oherwydd pwysau arholiadau; mynd am gyri am y tro cyntaf ac wrth gwrs, darlithoedd o safon fyd-eang.