Alistair yn Creu Newid wrth sefydlu MissionSquash.org.

Mae Mission Squash yn rhaglen gyfoethogi ieuenctid drefol ddwys sy'n cyfuno hyfforddiant academaidd, hyfforddiant sboncen a gwasanaeth cymunedol yn un profiad hollgynhwysol i ddisgyblion blwyddyn 6 i 12.

Nod y rhaglen, heb unrhyw gost i'w teuluoedd, yw rhoi'r cyfle i bobl ifanc o gartrefi difreintiedig i wneud gwell ddyfodol i’w hunain drwy aros yn yr ysgol, graddio ac ymgeisio i golegau wrth wella eu hiechyd a'u ffitrwydd hefyd drwy chwarae sboncen.  Mae cyfleoedd fel gwersylloedd a thwrnameintiau yn gymhellion sy'n ysgogi myfyrwyr tuag at ragoriaeth academaidd. Mae'n llythrennol yn tynnu’r disgyblion o'u hamgylchedd cyfredol i ddangos posibiliadau newydd iddynt.

Hyd yn hyn mae'r rhaglen wedi darparu dros 800 awr o gymorth gwaith cartref, tiwtora un-i-un, eiriolaeth yn yr ysgol, paratoi at arholiadau, tripiau a rhaglenni sgiliau bywyd i'r rhai sy’n cymryd rhan.

Mae'r canlyniadau ar gyfer y fenter Mission Squash yn cynnwys cynnydd mewn graddau yn Saesneg, Mathemateg a'r Gwyddorau a 28% yn llai o absenoldebau ysgol o gymharu â chyfoedion.