3ydd yn y DU am Brofiad Myfyrwyr

[Times Good University Guide 2021]

Student snorkeling in Costa Rica

Mae'r Adran Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i lleoli ar Campws Parc Singleton. Ar lefel israddedig, rydym yn cynnig cyrsiau mewn bioleg, sŵoleg a bioleg morol. Mae'r cyrsiau hyn i gyd wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Frenhinol Fioleg. Mae ein hymchwil yn cynnwys ecoleg ymddygiadol a symudol, ecoleg esblygiadol a moleciwlaidd, pysgodfeydd a dyframaethu, ecoleg y boblogaeth a'r gymuned, bioleg organeb gyfan a chlefydau bywyd gwyllt a rheoli pla. Rydym yn cydweithio â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i weithio ar brosiectau sy'n helpu i wella bywyd o dan ddŵr a bywyd ar dir.

Mae Abertawe'n lleoliad gwych i astudio biowyddorau. Lleolir cynefinoedd amrywiol ar Benrhyn Gŵyr gerllaw (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol cyntaf y DU), yng Nghwm Tawe a thu hwnt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Mae gennym gwch ymchwil catamaran pwrpasol newydd gwerth £1.3 miliwn a fydd yn cario 26 o deithwyr ac yn caniatáu i'n holl fyfyrwyr ac ymchwilwyr gynnal gweithgareddau ym Mae Abertawe a thu hwnt.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, barnwyd bod 94% o ymchwil yr Adran yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol. Roedd yn y 7fed safle yn y DU ac ar y brig yng Nghymru.