Gwybodaeth am y Ganolfan

Mae'r Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy yn ganolfan rhagoriaeth a sefydlwyd yn 2003 gyda chymorth yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, a Phrifysgol Abertawe.

Mae gan y Ganolfan systemau dyframaeth ailgylchredeg modern y gellir eu rhaglennu'n llawn ac mae'n cynnal gwaith ymchwil cymhwysol ar ystod amrywiol o organebau dyfrol, o ardaloedd tymherus i ardaloedd trofannol, ac o amgylcheddau morol i amgylcheddau croyw.

CSAR logo

Ceisio rhagoriaeth mewn dyframaeth cynaliadwy

CSAR yn gweithio o gyfleusterau rheoledig o'r radd flaenaf yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.

Mae tîm y Ganolfan yn cynnal gwaith ymchwil, yn ymwneud â datblygu technegol, ac yn darparu hyfforddiant a chyngor ar ran ffermwyr masnachol a darparwyr gwasanaethau dyframaeth, asiantaethau ariannu, a sefydliadau llywodraethol, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Arbenigedd, cyfleusterau, a gweithgareddau

Yn ogystal â bod â'i chyfleusterau arbrofi ei hun, mae gan y Ganolfan fynediad uniongyrchol at arbenigedd cynhwysfawr a labordai ar draws campws Prifysgol Abertawe, gan gynnwys biocemeg, bioleg foleciwlaidd, ffisioleg, histopatholeg, cemeg dŵr, peirianneg systemau, technolegau biobrosesu, a phrosesau hylif cymhleth.

Mae'r Ganolfan yn cefnogi prosiectau israddedig a phrosiectau ymchwil MSc, yn ogystal â rhaglen ymchwil ôl-raddedig fywiog ym maes Dyframaeth a Physgodfeydd (Mhres, PhD).Mae hefyd yn darparu hyfforddiant galwedigaethol ac yn cynnig interniaethau a lleoliadau ar gyfer y Brifysgol a diwydiant.