Em

Em Cookson-Williams headshot

Stori Em

Sut mae eich hunaniaeth yn perthyn i'ch gwaith?

Rydw i wedi gweithio ym maes cymorth i fyfyrwyr am fwy na 10 mlynedd. Ymunais â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2022 fel Arweinydd Lles a Llesiant yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Rwy'n uniaethu â bod yn anneuaidd ac yn hoyw.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wedi bod yn rhan hanfodol o'm gwaith yn aml, ac yn bendant yn rhywbeth rydw i'n teimlo'n angerddol amdano yn y gweithle. Roeddwn i'n gyd-gadeirydd y rhwydwaith LHDT+ i staff yn y brifysgol lle roeddwn i'n gweithio o'r blaen, ac rydw i'n falch iawn o fod yn ymuno â Daf a Freya fel Cyd-gadeirydd Rhwydwaith Staff LHDT+ Prifysgol Abertawe. Mae cefnogi datblygiad mannau cynhwysol a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi bod yn rhan o'm gwaith amser llawn ym maes addysg uwch ac y tu allan i'r sector addysg uwch hefyd. Am nifer o flynyddoedd roeddwn i'n gweithio fel gweithiwr ieuenctid i glwb ieuenctid LHDT+ ac ar hyn o bryd rydw i'n gyfarwyddwr anweithredol i sefydliad LHDT+ lleol sy'n cefnogi pobl ifanc LHDT+ a'u teuluoedd ac yn darparu addysg a hyfforddiant i weithleoedd a gweithwyr proffesiynol.

Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o waith cynyddol Rhwydwaith Staff LHDT+ Prifysgol Abertawe.

Ydych chi'n teimlo'n gyffyrddus wrth fod yn agored yn y gwaith?

Er fy mod i wedi bod yn agored am fod yn hoyw ers amser maith, mae dod allan fel rhywun anneuaidd wedi bod yn eithaf diweddar ac mae'n barhaus. Cymerodd hi sbel i mi deimlo'n gyfforddus wrth rannu'r rhan honno o'm hunaniaeth - dyw pawb ddim yn deall beth mae'n golygu i fod yn 'anneuaidd' ac mae'n gallu teimlo'n anodd bod yn driw i'ch gwir hunaniaeth mewn amgylcheddau dieithr. Rydw i'n dod yn fwy hyderus wrth fod yn driw i'm hunan yn y gweithle a rhannu fy rhagenwau pan fydda i'n cyflwyno fy hun ac fel rhan o'm llofnodion e-bost. Ac er bod fy hunaniaeth fel unigolyn anneuaidd yn ehangu ymhell y tu hwnt i'm rhagenwau, mae teimlo'n gyfforddus wrth gyflwyno fy hun fel 'They/Them' yn fan cychwyn o leiaf.

Pam mae modelau rôl LHDT yn bwysig yn y gweithle?

Mae gwelededd mor hollbwysig, i unrhyw grŵp lleiafrifol. Wrth gael fy magu yn ystod cyfnod Adran 28, doedd dim modelau rôl amlwg gen i pan roeddwn i'n cael fy addysg, a chafodd hynny effaith enfawr ar sut roeddwn i'n gallu deall ac archwilio fy hunaniaeth fy hun. Mae modelau rôl LHDT+ yn y gweithle'n rhan bwysig o greu amgylchedd cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn driw i'w hunain yn gyfforddus, ond yn fwy na hynny, gallu cael llais ac eirioli dros eu hawliau. Ac i weithio mewn amgylchedd addysg, rydw i'n teimlo ei bod hi’n bwysicach nag erioed cael gwelededd LHDT+ yn y gweithle - pan fydd myfyrwyr yn gallu gweld eu hunaniaethau eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y staff o'u hamgylch, mae'n eu helpu i wybod ei bod hi'n iawn bod yn driw i'ch hun.

Beth gall cyfeillion ei wneud yn y gweithle?

Mae cyfeillion yn chwarae rhan bwysig iawn wrth greu amgylchedd cynhwysol a diogel i staff LHDT+. Gall cyfeillion fod yn rhan fwy o'r mudiad, gan gyfranogi mewn digwyddiadau fel Mis Hanes LHDT+, gorymdeithiau Pride neu ddiwrnodau ymwybyddiaeth, a hefyd gallan nhw greu newid o ran diwylliant, dealltwriaeth ac arferion cynhwysol yn y gweithle. Boed wrth eirioli dros anghenion staff LHDT+, herio iaith broblemus neu addysgu cydweithwyr ynghylch arferion gorau, gall cyfeillion rhagweithiol wneud gwahaniaeth i amgylchedd y gweithle a gwneud i staff LHDT+ deimlo eu bod nhw wedi'u cefnogi.