Croeso i BywydCampws ym Mhrifysgol Abertawe
Rydym yn deall bod angen i ni eich cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn i chi allu mwynhau eich amser yn y Brifysgol i'r eithaf.
Rydym yn cynnig gwasanaethau cyngor a chymorth diduedd am ddim i fyfyrwyr, heb feirniadu, mewn amgylchedd cartrefol, cyfeillgar a chyfrinachol. Dewch i'n gweld i gael cymorth arbenigol gan wasanaethau'r Gaplaniaeth, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol, Cyfranogiad a Llesiant.
Sut i gysylltu â ni Ffydd, Cymunedol, Rhyngwladol, Ariannol, Cyfranogiad a Llesiant.
Hysbysiad am Wasanaethau
Mae modd cysylltu â staff canolog BywydCampws ar y ffôn ers dydd Mawrth 15 Mawrth.
I ddechrau, bydd y llinell ffôn ar agor ar y diwrnodau a’r amserau canlynol:
Dydd Mawrth: 10:00am – 12:00pm | 2:00pm – 4:00pm
Dydd Mercher: 10:00am – 12:00pm | 2:00pm – 4:00pm
Dydd Iau: 10:00am – 12:00pm | 2:00pm – 4:00pm
Dydd Gwener: 10:00am – 12:00pm | 2:00pm – 4:00pm
01792 602000
Mae gwasanaethau unigol BywydCampws yn parhau i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddulliau cysylltu ar-lein, gan gynnwys e-bost a Sgwrs Fyw.