Roedd Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn llawn cyffro a disgwyliad  ddydd Mercher 7 Chwefror, wrth i fyfyrwyr Busnes yn eu blwyddyn olaf ddod ynghyd i gyflwyno eu cyflwyniadau pwynt canol i’w darparwyr prosiect. Er gwaetha’r nerfau a’r pryderon, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, diolch i’r cymorth a’r anogaeth gan y sefydliadau a oedd yn cymryd rhan.

Daeth amrywiaeth o gwmnïau i’r digwyddiad, gan gynnwys Liberata, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Tata Steel UK, Sefydliad SANS, Banc Aldermore, LiteBulb, Y Wallich, a’r Bathdy Brenhinol, i glywed am waith caled y myfyrwyr. Yn ystod y diwrnod, bu’r mynychwyr yn rhan o sesiynau rhwydweithio, gan feithrin cysylltiadau gwerthfawr dros ginio.

“Prosiect Blwyddyn Olaf Rhaglen Rheoli Busnes y BSc yw’r modiwl penllanw sy’n cynnwys pedair blynedd o astudio caled. Mae prosiect blwyddyn olaf byw fel hwn, yn allweddol ar gyfer myfyrwyr Rheoli Busnes gan ei fod yn pontio’r bwlch rhwng gwybodaeth ddamcaniaethol a chymhwysedd ymarferol, sy’n darparu profiad byd go iawn amhrisiadwy sy’n allweddol i lywio heriau deinamig yr amgylchedd busnes,” meddai Dave Bolton, Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth.

Mynegodd Dave Bolton hefyd ei falchder yn y myfyrwyr, y goruchwylwyr a’r staff am eu hymroddiad a’u cyflawniadau hyd yn hyn.

Cafodd y farn hon ei hadleisio gan Ally Doherty, Rheolwr AD yn Liberata, a ddiolchodd am y cyfle i glywed cyflwyniadau’r myfyrwyr yn uniongyrchol. “Roedd lefel yr arloesi a’r wybodaeth a gafwyd yn anhygoel ac yn atgyfnerthu ein cred ym mhwysigrwydd cefnogi ac ymgysylltu â’r byd academaidd  a mentrau fel hyn,” meddai Doherty.

Yn ogystal ag arddangos medrusrwydd academaidd y myfyrwyr, amlygwyd hefyd y cydweithio ffrwythlon rhwng y byd academaidd a diwydiant, sy’n atgyfnerthu buddion cyffredin partneriaethau o’r fath.

Wrth i’r diwrnod ddirwyn i ben, roedd hi’n amlwg bod y cyflwyniadau nid yn unig wedi nodi carreg filltir arwyddocaol ar gyfer y myfyrwyr blwyddyn olaf, ond hefyd wedi cryfhau’r cysylltiadau rhwng Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe a’i phartneriaid busnes nodedig. Gyda hyder a chefnogaeth o’r newydd, mae’r myfyrwyr ar eu ffordd i gyflawni llwyddiant proffesiynol ym byd deinamig busnes.

Edrychwch ar ein cyrsiau busnes israddedig yn Abertawe a datgloi'r cyfle i astudio Rheoli Busnes wrth ennill cysylltiadau amhrisiadwy â nifer o bartneriaid diwydiant. Ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf? Darganfod mwy.

Rhannu'r stori