Mewn seremoni fuddugoliaethus ddydd Mawrth, 12 Rhagfyr, gwnaeth Siân Roderick, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, nodi carreg filltir bwysig wrth iddi wisgo'r gŵn coch eiconig, sy'n nodi cwblhau ei PhD yn rhan-amser.

Roedd y cyflawniad yn arbennig o ingol i Siân, a wnaeth golli ei seremoni raddio yn yr haf oherwydd Covid.

Roedd astudio am PhD yn rhan-amser wrth gydbwyso rôl amser llawn fel Uwch-ddarlithydd yn brofiad trawsnewidiol a chyfoethog i Siân. Gan fyfyrio ar ei thaith, meddai "Roedd ymrwymo i raglen PhD ran-amser gyda'm rôl amser llawn fel Uwch-ddarlithydd wedi bod yn brofiad trawsnewidiol a chyfoethog. Mae wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o ymchwil ddoethurol ond hefyd wedi rhoi mewnwelediad i mi o'm galluoedd a'm gwydnwch".

Yn dyst i'w hymrwymiad at ddysgu parhaus, cwblhaodd Siân y rhaglen PG Cert HE ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn, gan wella ei hymarfer addysgu. Er gwaethaf heriau cydbwyso astudiaethau academaidd ag ymrwymiadau proffesiynol a phersonol, roedd y profiad yn heriol ac yn wobrwyol i Siân, gan ategu pwysigrwydd dysgu gydol oes.

Mae ymchwil Siân, ym maes ymddygiad sefydliadau, yn edrych ar ragflaenwyr a chanlyniadau cyfranogiad gweithwyr mewn gweithluoedd asiantaethau gweithwyr dros dro. Mae ei gwaith doethurol yn cyfrannu'n sylweddol at ddisgwrs dynameg sefydliadol, gan roi mewnwelediadau gwerthfawr i ddynameg gymhleth amgylchoedd gwaith cyfoes.

Gan fynegi ei diolchgarwch, cydnabu Siân gymorth ac anogaeth ei goruchwylwyr sef Dr Denis Dennehy a'r Athro Gareth Davies, cydweithwyr, a'r brifysgol yn gyffredinol. "Ni fyddai'r Ddoethuriaeth wedi bod yn bosib heb gymorth ac anogaeth diflino fy ngoruchwylwyr, fy nghydweithwyr, yr adran a'r Brifysgol", meddai.

Mae cyflawniad doethurol Siân yn ychwanegu gwerth at faes ymddygiad sefydliadau ond mae hefyd yn ei harfogi ag ystod amrywiol o alluoedd sy'n ymestyn y tu hwnt i'w maes ymchwil penodol. Wrth iddi ddechrau ar bennod nesaf ei gyrfa, bydd Siân yn gwneud cyfraniadau ystyrlon at ddisgwrs parhaus dynameg sefydliadol, wedi'i harfogi â llu o wybodaeth a phrofiad a gafwyd ar ei thaith ddoethurol.

Mae'r Ysgol Reolaeth a Phrifysgol Abertawe gyda'i gilydd yn estyn eu llongyfarchiadau mwyaf i Siân ar y cyflawniad anhygoel hwn ac yn edrych ymlaen at weld effaith barhaus ei chyfraniad yn y byd academaidd.

Rhannu'r stori