Gwnaeth Alex Attwal, un o gyn-fyfyrwyr Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, gyflawni canlyniadau rhagorol yn arholiadau diweddar ICAEW, gan dderbyn gwobrau mawr eu bri.

Mewn camp academaidd anhygoel, mae un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, Alex Attwal, wedi derbyn anrhydeddau uchel yn arholiadau proffesiynol Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Cymru a Lloegr (ICAEW), gan ennill cydnabyddiaeth am ei berfformiad neilltuol. Yn ddiweddar mae Alex, a gwblhaodd ei BSc (Anrh.) mewn Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth yn 2021, eisoes wedi derbyn Gwobr Spicer and Peglier a Gwobr Howitt am ei ganlyniadau rhagorol mewn Cyfrifo ac Adrodd Ariannol (Mehefin 2022) a Rheoli Ariannol (Mehefin 2023) yn y drefn honno.

Mae Alex Attwal, sydd bellach yn Uwch-swyddog Cyswllt mewn Bancio a Marchnadoedd Cyfalaf gyda PwC, yn rhannu ei gyffro am y cyflawniad gwych hwn. "Roedd hi'n fraint ac yn bleser derbyn dwy wobr am arholiadau proffesiynol gan ICAEW dros y ddwy flynedd ddiwethaf. I dderbyn y ddwy, mae hynny'n hynod o arbennig. Dydw i ddim yn credu y gall unrhyw un ddod allan o arholiad yn meddwl ei fod wedi gwneud cystal â hynny i fod y gorau yn y byd, ond roedd derbyn y newyddion yn wych, er cafodd sawl noson a phenwythnos eu haberthu!"

Mae Alex yn nodi bod rhan sylweddol o'i lwyddiant o ganlyniad i'r addysg ragorol a dderbyniodd yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mynegodd ei ddiolchgarwch drwy ddweud, "Mae arnaf ddyled fawr i'm hathrawon ym Mhrifysgol Abertawe am y rhan y mae nhw wedi'i chwarae wrth addysgu hanfodion y pwnc i mi. Mae wedi talu ar ei ganfed! Dywedodd Alex hefyd fod y cwrs cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Abertawe wedi ei baratoi'n dda ar gyfer yr arholiadau proffesiynol, a oedd yn hanfodol i ddatblygiad ei yrfa.

Mae cyflawniadau Alex Attwal yn dyst i safonau uchel rhagoriaeth academaidd ac addysg yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Mae'r brifysgol bob amser wedi rhoi platfform i fyfyrwyr lwyddo'n gynnar yn eu gyrfaoedd, fel a welir drwy daith anhygoel Alex.

I gael mwy o wybodaeth am achrediadau'r Ysgol Reolaeth a'r rhaglenni Cyfrifeg a Chyllid Israddedig, dilynwch y ddolen ganlynol: Achrediadau'r Ysgol Reolaeth.

Mae cymuned Prifysgol Abertawe'n estyn ei llongyfarchiadau mwyaf i Alex Attwal ar ei gyflawniadau anhygoel ac yn dymuno'n dda iddo yn ei yrfa mewn Bancio a Marchnadoedd Cyfalaf gyda PwC.

Rhannu'r stori