Nameel Babu

Mae myfyriwr a raddiodd gyda gradd Dosbarth Cyntaf er Anrhydedd, Nameel Babu, wedi lansio brand o ddillad newydd sbon sy'n hyrwyddo bod yn ystyriol o'r amgylchedd ac sy'n pwysleisio hunaniaeth grŵp.

Pan ddechreuodd Nameel Babu ei flwyddyn olaf o astudiaethau israddedig yn yr Ysgol Reolaeth, penderfynodd fod yn amser rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau yr oedd wedi'u dysgu yn ystod ei astudiaethau ar waith drwy sefydlu ei fusnes ei hun. Roedd bob amser yn frwdfrydig iawn dros ddechrau rhywbeth unigryw felly gyda'i ffrind gorau, aeth ati i greu Hoodie Ink, sef cwmni sy'n hyrwyddo hunaniaeth grŵp ac sy'n creu hwdis arloesol, unigryw a diffwdan gyda dyluniadau sy'n fforddiadwy, o safon, sy'n ystyriol o'r amgylchedd ac sy'n foesegol.

Dechreuodd taith Nameel pan ddewisodd astudio'r BSc Economeg a Chyllid yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Roedd Nameel o'r farn mai Abertawe oedd orau iddo fe. Dywedodd:

"Dewisais i Brifysgol Abertawe yn bennaf oherwydd y pwysigrwydd mae'r Brifysgol yn ei roi ar ddatblygiad cyffredinol myfyrwyr. Mae'r Brifysgol yn hyrwyddo'r cydbwysedd rhwng yr elfen academaidd a gweithgareddau allgyrsiol."

Roedd gallu ychwanegu gweithgareddau allgyrsiol at ei astudiaethau wedi galluogi Nabeel i ehangu ei orwelion a, gan yr oedd yn gyfrannwr brwd mewn cymdeithasau myfyrwyr amrywiol, roedd wrth ei fodd gyda'r cyfle i gwrdd â myfyrwyr o bedwar ban byd a mabwysiadu hunaniaethau grŵp gwahanol. Roedd hyn yn brif sbardun yn y broses o ddatblygu Hoodie Ink.

I gymryd yr awenau yn adran ariannol y fenter, defnyddiodd Nabeel yr wybodaeth ariannol a ddatblygodd drwy gydol ei radd i sicrhau llwyddiant a thwf y busnes. Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae Hoodie Ink wedi creu argraff ac mae gan y cwmni eisoes gannoedd o gwsmeriaid hapus a bellach mae'n anelu at ehangu'n fyd-eang i bum cyfandir.

Wrth raddio ym mis Gorffennaf 2019 gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Economeg a Chyllid, dywedodd Nameel:

"Drwy fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe, roedd yn bosib i mi fireinio fy sgiliau a meithrin savoir-faire busnes byd-eang. Ni allwn i fod wedi gofyn am le gwell i astudio fy ngradd israddedig!"

 

Ewch i wefan Hoodie Ink am ragor o wybodaeth am y cwmni.

Rhannu'r stori