Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, wedi'i chyhoeddi i gynnal Cynhadledd Cymdeithas Athrawon y Gyfraith 2024, ar 11 a 12 Ebrill.

Mae cynhadledd flynyddol yr ALT yn dwyn ynghyd academyddion, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr ym maes y gyfraith i drafod a dathlu rhagoriaeth wrth addysgu'r gyfraith, ac i rannu arferion gorau.

Cynhelir y digwyddiad deuddydd yng nghanol Ysgol y Gyfraith, yn Adeilad Richard Price, ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.

Thema'r gynhadledd eleni yw 'Cyfleoedd a Heriau mewn Addysg Gyfreithiol'

I gael gwybod mwy, ewch i wefan Cynhadledd yr ALT. Mae'r alwad am bapurau bellach ar agor.

Meddai'r Athro Alison Perry:

"Rydym wrth ein boddau ac yn falch iawn o fod yn cynnal Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas Athrawon y Gyfraith yma yn Ysgol y Gyfraith Abertawe yn 2024.

O argaeledd eang sydyn AI cynhyrchiol i dranc 'gradd cymhwyso yn y gyfraith', mae heriau/cyfleoedd newydd (yn dibynnu ar safbwynt rhywun) yn helaeth.

Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i chi ymuno â ni yn ein 'ugly, lovely town' am ddau ddiwrnod o ddadlau, trafod, gwrando, a dysgu am rai o'r cyfleoedd a'r heriau presennol ym maes addysg gyfreithiol. Ac efallai ychydig o ymlacio wrth y môr hefyd."

Rydym wrth ein boddau'n cynnal Cynhadledd yr ALT 2024 yma yn Abertawe.

Rhannu'r stori