Yn y llun: Yr Athro McDermott Rees yn cwrdd â'i Huchelder y Dywysoges Frenhinol Anne, KG KT GCVO QSO, Meinciwr Brenhinol y Deml Fewnol.
Hefyd yn y llun: Yr Athro Gillian Triggs, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, Meinciwr Academaidd; Syr Robert Francis CB, Trysorydd y Deml Fewnol; yr Anrhydeddus Mr Justice Constable CB, Meinciwr Llywodraethu. Cydnabyddiaeth Llun: Miranda Parry.

Mae'r Athro Yvonne McDermott Rees, academydd o Brifysgol Abertawe sy'n arbenigo mewn cyfraith a gweithdrefn trosedd ryngwladol, hawliau dynol a chyfraith tystiolaeth, wedi cael ei hethol yn Feinciwr Academaidd Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol.

Rhoddir yr anrhydedd hwn i academyddion nodedig sy'n cyfrannu drwy eu gwaith at astudio'r gyfraith a disgyblaethau sy'n berthnasol i addysg ymarferwyr cyfreithiol y dyfodol. Mae meincwyr yn dal eu swyddi am oes ar ôl iddynt gael eu hethol, a disgwylir iddynt gyfrannu at weithgareddau llywodraethu, addysg a hyfforddiant yr Ysbyty.

Mae'r Deml Fewnol yn un o bedwar Ysbyty'r Brawdlys yn Llundain sy'n meddu ar yr hawl unigryw i alw myfyrwyr i ymarfer y gyfraith ym Mar Cymru a Lloegr. Mae'r Deml Fewnol wedi bodoli ers y 14eg ganrif, ac mae'n ymfalchïo yn ei haelodaeth fyd-eang sy'n fwyfwy blaengar wrth gryfhau a hyrwyddo rheolaeth y gyfraith a chymuned gyfreithiol fywiog ac amrywiol.

Ar ôl cael ei phenodi, meddai'r Athro McDermott Rees:

“Mae'n anrhydedd mawr ac yn fraint cael fy ethol yn Feistr Mainc y Deml Fewnol. Roeddwn i wrth fy modd yn cael fy mhenodi'n Gymrawd Academaidd y Deml Fewnol yn 2014, ac yn ystod y blynyddoedd ers hynny rwyf wedi cynnal perthynas agos â'r Ysbyty, gan gynnwys drwy ddarlithoedd gwadd, gweithgareddau allgymorth ac ymestyn mynediad a chynhadledd yr Academi Brydeinig ar annibyniaeth farnwrol yn ystod argyfyngau yn 2018. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i feithrin cysylltiadau cryf rhwng myfyrwyr o Abertawe a'r Deml Fewnol am flynyddoedd lawer.”

Mae Yvonne McDermott Rees wedi gweithio yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ers 2017. Ar hyn o bryd, mae'n arwain TRUE, prosiect amlddisgyblaethol gwerth £1.2m sydd wedi'i ddewis i gael cyllid gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac sydd wedi'i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Mae’r prosiect yn archwilio effaith ffugiadau dwf a datblygiadau sy'n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial ar ffydd mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr. Bydd prosiect TRUE a'r Deml Fewnol yn cynnal cynhadledd ar y cyd, New Frontiers: Open Source Evidence, yn y Deml Fewnol ac ar-lein ar 25 Tachwedd 2023.

Rhannu'r stori