Cydnabyddir IP Cymru, a arweinir gan yr Athro Cysylltiol Andrew Beale OBE, fel enghraifft o’r radd flaenaf o gymorth busnes gan Sefydliad Eiddo Deallusol. Ei nod yw helpu unigolion a byrddau cyfarwyddwyr i ddeall eu heiddo deallusol yn well, gan eu diogelu rhag bygythiad troseddau yn erbyn eiddo deallusol.

Mae’r erthygl yn cynnig adolygiad dadansoddol 20 mlynedd o weithrediad IP Cymru fel menter arobryn sy’n darparu cymorth busnes i BBaCh; yn offeryn i ddatblygu cwricwlwm cyrsiau ôl-raddedig yn y gyfraith; ac yn gatalydd ar gyfer ymchwil gyfreithiol gyfoes i gyfraith eiddo deallusol a seiberddiogelwch.

Yn ogystal â bwrw golwg dros ei orffennol, mae IP Cymru hefyd yn canolbwyntio ar y dyfodol, wrth iddo ymdrechu i fynd i’r afael â’r heriau diweddaraf ym myd newidiol eiddo deallusol a seiberdroseddu, gan gynnig cyngor arbenigol i BBaCh. Un o’r heriau diweddaraf sy’n wynebu BBaCh yw sut i ddiogelu cyfrinachau masnach ar-lein a’r angen i gymryd camau rhesymol i’w diogelu, maes lle mae IP Cymru eisoes wedi cyhoeddi papur.

I adeiladu ar hyn, mae IP Cymru eisoes wedi dechrau:

  1. Gweithio gyda’r Ffederasiwn Busnesau Bach i hyrwyddo’r angen i nodi, labelu a diogelu cyfrinachau masnach;
  2. Gweithio gyda darparwr hyfforddiant ar-lein i hyrwyddo cyfleoedd newydd i hyfforddi staff am gyfrinachau masnach;
  3. ipcybersecurity.com i ddarparu canllaw i ddiogelwch eiddo deallusol ar-lein ar gyfer BBaCh.

I gael rhagor o wybodaeth am IP Cymru, gan gynnwys ei ganllawiau am ddim, ei erthyglau a’i bostiau blog sy’n canolbwyntio ar ddiogelu eiddo deallusol, ewch i wefan IP Cymru.

Rhannu'r stori