Llwybr Natur Campws Parc Singleton

The biodiversity trail in the grounds of Singleton Park Campus

Agorwyd llwybr natur Campws Parc Singleton yn 2014 gan y darlledwr a’r naturiolwr o Gymru, Iolo Williams. 

Gallwch ddilyn y llwybr ar draws y campws yn eich amser eich hun i ddarganfod amrywiaeth o gynefinoedd a ddefnyddir gan bob math o fywyd gwyllt megis llwynogod, dyfrgwn, ystlumod, a mamaliaid eraill, yn ogystal ag amrywiaeth eang o adar a phryfed. 

I gymryd rhan mewn taith dywys, e-bostiwch: wildlife@abertawe.ac.uk neu ewch i'n tudalennau gwe Cynaliadwyedd, lle gallwch ddarllen mwy am sut gallwch chi gymryd rhan a helpu ein Swyddog Bioamrywiaeth a’n Tîm Cynaliadwyedd i annog bywyd gwyllt ar y campws ac o’i amgylch.

Dysgu am fywyd gwyllt ar y campws

Iolo Williams with students on campus at launch of the Nature Trail