People walking in Botanical Gardens, Singleton Park Campus, Swansea University

Cynlluniwyd y Gerddi Botaneg rhestredig i gychwyn gan y botanegydd arloesol o Brydain a Deon y Gyfadran Wyddoniaeth, yr Athro Florence Annie Mockeridge, a ymddeolodd ym 1954 cyn cwblhau’r prosiect. Daeth Dr Herbert ‘Bertie’ Street i olrhain yr Athro Mockeridge, gan ddylunio cynllun terfynol yr ardd a goruchwylio’r broses o’i chreu.

Mae’r ardd yn cynnwys sawl nodwedd allweddol:

Yr Ymlusgdy: Cafodd yr enw hwn gan yr oedd yn wreiddiol yn gartref i grŵp bach o grwbanod a oedd yn byw ar yr ynys. Fe’i defnyddid hefyd mewn rhaglen fridio gwiberod a ryddhawyd yn y pen draw ar Benrhyn Gŵyr.

Y Pwll Addurniadol: Mae’r pwll yn cynnwys llyswennod, crethyll ac ambell bysgodyn aur ac mae hefyd yn gartref i anifeiliaid di-asgwrn-cefn a gweision y neidr.

Yr Oracl: Gweithiodd myfyrwyr y Brifysgol gydag elusen leol Down to Earth i adeiladu’r Oracl (sef yr Amgylchedd Dysgu Cymunedol ac Ymchwil Awyr Agored) yn y gerddi. Defnyddiodd y tîm ddeunyddiau lleol ag effaith ecolegol isel gan ddefnyddio sgiliau megis adeiladu waliau cerrig sych, ffurfio fframiau pren a chobio.

Y Ddôl: Mae’r ddôl fach yn y gerddi’n rhestredig a chaiff ei thorri unwaith y flwyddyn yn unig, gan gynyddu tirwedd fioamrywiol y Brifysgol.

Llwybr y Goedwig: Helpodd myfyrwyr y Brifysgol i adfer  llwybrau cerdded  y goedwig a oedd yn tueddu i foddi mewn llifogydd. Bellach, maent yn arwain at y ddôl restredig. Yn ogystal, adeiladwyd cyfres o ‘westai trychfilod’ a thomenni cynefin ganddynt ar hyd y llwybr, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u huwchgylchu.

Cychod Gwenyn: Ym mis Ionawr 2014, cyflwynwyd cychod gwenyn i’r Gerddi Botaneg. Ar hyn o bryd, mae chwe chwch ar y safle y mae’r Brifysgol yn berchen arnynt ac yn gofalu amdanynt.

Y Ffin Drofannol: Mae gan yr ardal hon o’r ardd ei microhinsawdd ei hun fel y gellir gweld gyda’r planhigion banana sy’n ffynnu a’r Gwiberlys enfawr (sy’n perthyn yn agos i’r yscorpionllys bach iawn).

Manteisiwyd ar safle yr Ardd Fotaneg i elwa o’r microhinsoddau a grëwyd gan yr adeiladau a’r tir naturiol gerllaw, gan alluogi i blanhigion tyner, ecsotig ac yn aml brin iawn i gael eu tyfu. Yn gynyddol, mae’r ardd yn cael ei defnyddio fel meithrinfa i gynyddu stoc y planhigion presennol ac ychwanegu at gasgliadau presennol, gan wella bioamrywiaeth a hwyluso dysgu a lles. Mae myfyrwyr yn defnyddio’r ardd fel labordy byw ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud ag astudio gwenyn, ystlumod, madfallod dŵr ac amffibiaid.

Autumn leaves on trees in the Botanical Garden on Singleton Park Campus
A giant green leaf within the Singleton Park Campus Botanical Garden
Autumn in the Botanical Garden, Singleton Park Campus