Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yr Athro Michael Draper yn y gynhadledd yng Nghyprus yn trafod uniondeb academaidd.

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi rhannu'i arbenigedd a'i brofiad o foeseg ac uniondeb academaidd â chynulleidfa ryngwladol mewn cynhadledd yn yr Undeb Ewropeaidd.

Cynrychiolodd yr Athro Michael Draper, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol, Blatfform Moeseg, Tryloywder ac Uniondeb mewn Addysg (ETINED) Cyngor Ewrop yn y digwyddiad. 

Cynhaliwyd y gynhadledd dridiau i aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd i amlygu'r frwydr barhaus yn erbyn llên-ladrad, camymddwyn academaidd a thwyll mewn addysg uwch. 

Sefydlwyd y Platfform ETINED o ganlyniad i bryder byd-eang ynghylch anonestrwydd mewn addysg. Mae'n cefnogi ymagwedd at sicrhau addysg o ansawdd a mynd i'r afael ag anonestrwydd dim ond os gall sectorau perthnasol cymdeithas ymrwymo'n llwyr i egwyddorion moesegol cadarnhaol sylfaenol ar gyfer bywyd cyhoeddus a phroffesiynol. 

Dywedodd yr Athro Michael Draper ei fod yn anrhydedd cael ei wahodd i siarad yn y gynhadledd yn Nicosia. 

Dywedodd: "Rwyf wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws Ewrop a'r tu hwnt i ddatblygu'r gwaith hwn dros nifer o flynyddoedd, ac mae'n bleser gweld yr effaith gadarnhaol ar aelod-wladwriaethau. 

"Mae hyn yn arbennig o wir ym maes Melinau Traethodau a Melinau Diplomâu, y maent wedi cael cryn sylw gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) ac yn y cyfryngau yn ddiweddar." 

Fis nesaf, bydd yr Athro Draper yn mynd i Brag i arwain trafodaethau ynghylch fframwaith y mae wedi helpu i'w ddrafftio ar gyfer brwydro twyll mewn addysg a hyrwyddo moeseg, tryloywder ac uniondeb mewn addysg.

Rhannu'r stori