DAN ANLEZARK - DEILIAD YSGOLORIAETH HERIAU BYD-EANG

Mae Dan Anlezark yn ymchwilydd hawliau dynol, sy'n arbenigo mewn deallusrwydd ffynhonnell agored (OSINT). Yn wreiddiol o Awstralia a bellach yn byw yn Abertawe, daw Dan â chyfoeth o brofiad o ymchwilio i hawliau dynol yng ngwledydd y Dwyrain Canol ac Ewrop i'r rhaglen.  Mae gan Dan brofiad proffesiynol mewn amrywiaeth o rolau ymchwiliol a dadansoddol mewn adrannau llywodraethol, mewn busnes ac, yn ddiweddaraf, gyda Grŵp dan Fandad y Cenhedloedd Unedig Arbenigwyr Rhanbarthol a Rhyngwladol Nodedig ar Yemen (GFF Yemen).

CEFNDIR ADDYSGOL A GYRFA

Mae Dan yn meddu ar Faglor Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol gan Brifysgol Canberra, Gradd Meistr mewn Heddwch a Gwrthdaro gan Brifysgol Sydney a chymwysterau Deallusrwydd Gwybodaeth gan Heddlu Victoria.

Ar hyn o bryd, mae Dan yn gwneud gwaith ymgynghori ar draws ystod eang o sefydliadau, gan ganolbwyntio ar ymchwiliadau ffynhonnell agored ar gyfer atebolrwydd dros hawliau dynol. Yn ddiweddar, mae Dan wedi cyflwyno hyfforddiant ymchwilio i sefydliadau fel y BBC, wedi cynnal ymchwiliadau ar gyfer Amnesty International a gwneud gwaith ymgynghorol ar gyfer y Ganolfan dros Wytnwch Gwybodaeth (CIR) ymysg llawer eraill.

Cyn ymuno â'r rhaglen, gweithiodd Dan ar lefelau llywodraeth wladol a ffederal yn Awstralia, gan amrywio o orfodi'r gyfraith a'r heddlu i reoli adnoddau naturiol a’r amgylchedd.

MEYSYDD ARBENIGEDD

Bydd Dan yn canolbwyntio ar agwedd hawliau dynol a thechnoleg y Rhaglen Heriau Byd-eang, gan ddefnyddio ei brofiadau gyda defnyddio gwybodaeth ffynhonnell agored er mwyn ymchwilio i droseddau rhyngwladol. Mae Dan yn angerddol am atebolrwydd ac mae'n bwriadu defnyddio ei amser ar raglen yr Ysgoloriaeth Heriau Byd-eang i ffurfioli ei brofiad proffesiynol i greu allbwn ymchwil er lles cyffredin ymchwilwyr, ymchwilwyr academaidd a gweithredwyr ym maes hawliau dynol.

Yn benodol, mae Dan yn llunio allbwn ymchwil ar arfer gorau wrth ddefnyddio technegau ymchwilio ffynhonnell agored i asesu credadwyedd ffynhonnell a dibynadwyedd tystiolaeth wrth ymchwilio i droseddau rhyngwladol. 

UCHELGEISIAU A GOBEITHION AM Y DYFODOL

"Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon, rwy'n bwriadu defnyddio fy sgiliau ymchwilio i ffynonellau agored i barhau i hyrwyddo atebolrwydd ar gyfer troseddau rhyngwladol. Rwyf hefyd yn gobeithio ffurfioli fy mhrofiadau yn y maes hwn drwy achrediad cyfreithiol."

Ymgysylltiadau Diweddar Dan â’r Cyfryngau