Mae Hwngari yn wlad dirgaeedig yng nghanol Ewrop. Rhennir prifddinas y wlad, Budapest, gan afon Donwy. Mae Hwngari ychydig yn fwy o ran maint na'i chymydog gorllewinol, Awstria, ac mae ganddi tua 10 miliwn o breswylwyr. Ymhlith y gwledydd eraill sydd ar y ffin â Hwngari mae Slofacia, yr Wcrain, Rwmania, Serbia, Croatia a Slofenia. Bu'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd ers 2004. Hwngari yw un o'r 15 cyrchfan twristaidd mwyaf poblogaidd yn y byd, felly bydd digon i'w wneud a'i weld tra byddwch yn byw yno. 

Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol:

  

Stori Myfyriwr - Hwngari

Dwy fyfyrwraig wrth ymyl adeilad yn Hwngari