Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd

Mae lleoliad canolog Budapest yn Ewrop yn golygu ei bod yn borth i gyrchfannau ym mhob cyfeiriad; o fôr cynnes y Canoldir i'r de, i ddinasoedd prysur y gorllewin neu diroedd oer y gogledd. Tybir mai Budapest, neu 'Perl y Donwy' fel y'i gelwir oherwydd bod afon Donwy yn rhedeg drwyddi, yw un o'r dinasoedd mwyaf prydferth yn Ewrop a byddwch yn profi hinsawdd gyfandirol – gaeafau oer ond hafau cynnes! Iaith swyddogol Budapest, prifddinas Hwngari, yw Hwngareg ond siaredir digon o Saesneg a Saesneg yw'r iaith addysgu. Gyda chostau byw fforddiadwy, natur amlddiwylliannol a'r bywyd gwych a gynigir i fyfyrwyr, mae Budapest yn gyrchfan poblogaidd i fyfyrwyr cyfnewid. Mae Corvinus yn sefydliad a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes addysg ac ymchwil, ac mae'n enwog ym meysydd busnes ac economeg. Mae'r Swyddfa Ryngwladol yn gwneud pob ymdrech resymol i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lety addas ond, fel arfer, mae myfyrwyr yn rhannu fflatiau gyda'i gilydd gan nad yw'r brifysgol yn berchen ar unrhyw lety.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.