Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Fienna, prifddinas Awstria, yw'r ddinas fwyaf yn y wlad â phoblogaeth o fwy na 1.7 miliwn. Y ddinas yw canolfan diwylliannol, economaidd a gwleidyddol y wlad.  Gallwch ddisgwyl hafau cynnes a gaeafau oer yn Fienna oherwydd ei hinsawdd gyfandirol a bydd rhywbeth i'w weld neu ei wneud bob amser! Mae gan Fienna sîn gerddoriaeth fywiog ac mae'n adnabyddus am ei choffi a'i marchnadoedd Nadolig. Mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth dda sy'n rhoi'r cyfle i chi grwydro rhai o wledydd eraill Ewrop gan gynnwys yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari a Slofacia. Mae'n un o'r prifysgolion mwyaf yn Ewrop. Caiff ei chysylltu â 15 o enillwyr Gwobr Nobel a bu'n gartref academaidd i nifer mawr o ffigyrau hanesyddol ac academaidd pwysig. Nid oes llety ar gael ar y campws felly caiff myfyrwyr eu hannog i ddechrau chwilio cyn gynted â phosibl.