Yn adnabyddus am chwaraeon gaeaf, heicio ac ardal odidog yr alpau, mae'n hawdd gweld pam mae Awstria yn ddewis poblogaidd i fyfyrwyr Abertawe. Mae'n ffinio â'r Swistir a Liechtenstein i'r Gorllewin, yr Almaen a'r Weriniaeth Tsiec i'r Gogledd, Slofacia a Hwngari i'r Dwyrain a Slofenia a'r Eidal i'r de, a bydd digon o ddewisiadau teithio ar gael i chi ochr yn ochr â'ch astudiaethau. Mae'r wlad yn gartref i 8 miliwn o siaradwyr Almaeneg - allech chi ymgartrefu yno hefyd?

Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol:

Stori Myfyriwr - Awstria

Myfyrwyr yn y mynyddoedd