Llenyddiaeth Saesneg - Semester Dramor

Fel myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg, mae'n bosib y byddwch yn gallu treulio semester dramor. Bydd angen i chi ddechrau meddwl a fyddai hyn o ddiddordeb i chi yn ystod semester cyntaf eich blwyddyn gyntaf ac ystyried dod i’r sgwrs wybodaeth. Yna bydd angen cyflwyno cais i'ch coleg.

Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion partner canlynol, sy’n ddewisiadau poblogaidd i fyfyrwyr a hoffai dreulio semester dramor. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol wrth i’r lleoedd a’r cyrchfannau sydd ar gael amrywio o un flwyddyn i’r llall felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg! Nid yw cofrestru am raglen sy'n cynnig semester dramor yn gwarantu lleoliad dramor am semester. Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a chânt eu dyrannu drwy broses ddethol gystadleuol. Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn safonol eich cynllun gradd heb semester dramor. Gall yr opsiynau sydd ar gael i chi ddibynnu ar fanylion y cytundeb Brexit a negodir gan lywodraeth y DU.