Llyfrgelloedd ac Archifau - Prifysgol Abertawe

GWYBODAETH AM EIN LLYFRGELLOEDD A'N HARCHIFAU

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe  yn darparu gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel i’r holl staff a myfyrwyr, yn ogystal ag i'r cyhoedd, ac rydym yn datblygu'r gwasanaethau hyn yn barhaus i gefnogi gweithgareddau dysgu, addysgu, ymchwil a chorfforaethol y Brifysgol. Mae pob Llyfrgell ac Archif ar agor i bawb.

Mae'r Llyfrgelloedd a’r Archifau yn cynnig awyrgylch cyffyrddus helaeth gyda'r cyfleusterau a'r technolegau diweddaraf ar gyfer dysgu ac ymchwil. Mae ein staff cyfeillgar a phroffesiynol yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth, hyfforddiant, a phwnc - gwasanaethau sy'n ehangu'n barhaus - i sicrhau bod defnyddwyr y Llyfrgell yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnoddau sydd ar gael.  Cliciwch ar y lleoliadau isod i dderbyn gwybodaeth am ein gwasanaethau a'n horiau agor.

Ein Llyfrgelloedd a'n Harchifau

Llyfrgell Campws Parc Singleton yw ein llyfrgell fwyaf ac mae wedi'i lleoli ar Gampws Parc Singleton. Mae casgliad y Llyfrgell yn un amlddisgyblaethol, fodd bynnag mae'n gwasanaethu Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Coleg Gwyddoniaeth, y Coleg Meddygaeth, Coleg y Gyfraith a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Mae Llyfrgell Campws y Bae yn Llyfrgell newydd a modern a leolir ar Gampws y Bae. Mae'n gwasanaethu anghenion y Coleg Peirianneg, yr Ysgol Reolaeth, Cyfrifiadureg a Mathemateg , a'r Coleg.

Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru wedi'i lleoli ar Gampws Hendrefoelan. Mae'r casgliad yn cefnogi rhaglen AABO y Brifysgol ac mae'n cynnwys casgliadau arbennig a hanesyddol.

Mae Llyfrgell Banwen yn gangen o Lyfrgell Glowyr De Cymru yng Ngweithdy Dove ym Manwen sef 25 milltir o Abertawe.

Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant wedi'i lleoli yn adeilad Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yng Nghaerfyrddin. Mae'r casgliad yn cefnogi'r cyrsiau gwyddorau dynol ac iechyd ar y safle hwn.

Mae Archifau Richard Burton yn cadw dros 1.6 cilomedr o ddeunydd yn ymwneud â threftadaeth gyfoethog ddiwydiannol, ddiwylliannol a chymdeithasol Cymru. Mae'r eitemau, dogfennau a ffotograffau hanesyddol hyn yn cyfrannu at ddysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol. Mae'r Archifau ar agor i bawb.

Polisïau a Gweithdrefnau