Llyfrgell y Bae
Llyfrgell y Bae
Oriau agor a manylion cyswllt
Pryd rydym ni ar agor?
Oriau agor
Mae Llyfrgell y Bae ar agor fel y ganlyn:
Dyddiau | Oriau agor adeilad y llyfrgell | Oriau agor Desg Gwybodaeth Llyfrgell MyUni |
---|---|---|
|
24 awr | 08:00 - 17:00 |
Dydd Sadwrn a dydd Sul | 24 awr |
|
Mae cymorth o bell ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell ar gael drwy gysylltu â ni drwy'r sianelau canlynol:
- Ffoniwch Lyfrgell MyUni ar +44 (0)1792 606400
Mae ein llinell ffôn ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb - 5yp. - Cysylltwch â ni drwy ein Sgwrs Fyw Tîm Llyfrgell MyUni
Mae Sgwrsio Fyw gyda'r tîm Llyfrgell MyUniar gael rhwng yr oriau canlynol:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8yb - 5yp
Dydd Sul: 12yp - 8yh
Sylwch, ni fydd tîm Llyfrgell MyUni ar gael i sgwrsio ar ddydd Sadwrn, ond mae ein sgwrsfot Llyfrgell MyUni hefyd ar gael 24/7 i helpu gydag ymholiadau cyffredin. - E-bostiwch Dîm Llyfrgell MyUni
Cedwir golwg ar ein blwch e-bost rhwng yr oriau canlynol:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8yb - 5yp
Dydd Sul: 12yp - 8yh
Sylwch, ni fydd y blwch e-bost yn cael ei fonitro ar ddydd Sadwrn.
Gwasanaethau Llyfrgell
Gellir defnyddio'r gwasanaethau isod trwy hunanwasanaeth fel y ganlyn:
Gwasanaeth |
Lleoliad |
Gwneud cais am a benthyg eitemau llyfrgell |
Gall myfyrwyr a staff cyfredol pori silffoedd y llyfrgell a benthyg eitemau drwy'r terfynellau Hunan-Fenthyca, sydd wedi'u leoli gyferbyn â'r Ddesg Gwybodaeth. Gellir hefyd gwneud cais am neu adalw eitemau drwy ddefnyddio ein . |
Dychwelyd llyfrau |
Gellir dychwelyd eitemau'r llyfrgell drwy ddefnyddio'r derfynell Hunan-Ddychwelyd, sydd wedi'i leoli ger y Ddesg Gwybodaeth. Gellir dychwelyd Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd i staff wrth y Ddesg Gwybodaeth, yn ystod oriau agor y Ddesg Gwybodaeth. |
Benthyciadau gliniaduron |
Gellir benthyg gliniaduron o'n Loceri Gliniadur yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton (yn amodol ar argaeledd). Gweler ein tudalen Loceri Gliniaduron am fwy o wybodaeth am fenthyg a dychwelyd gliniaduron. |
Mannau astudio |
Mae yna fannau astudio/CP neilltuadwy a mynediad agored ar gael yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Gellir defnyddio mannau sydd wedi'u nodi fel 'Mynediad Agored' yn y llyfrgell ar unrhyw adeg heb orfod archebu. Gweler ein tudalen Archebu Man Astudio/CP am wybodaeth am sut mai archebu man neilltuadwy. |
Ymholiadau Llyfrgell Gyffredinol |
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth ar dudalennau we'r llyfrgell: E-bostiwch Dîm Llyfrgell MyUni neu ffoniwch +44 (0) 1792 (60)6400 |
Ymholiadau Llyfrgell sy'n benodol i'ch pwnc |
Gweler ein Canllawiau Llyfrgell Gallwch hefyd sgwrsio gyda llyfrgellydd ar-lein trwy ddefnyddio'n wasanaeth Holi Llyfrgellydd ar y gwefan Canllawiau Llyfrgell |
Casglu'ch cerdyn adnabod |
Os ydych chi'n fyfyriwr newydd ac mae angen i chi casglu eich cerdyn adnabod myfyriwr, gweler ein tudalen Casglu Cardiau Adnabod. Os ydych chi'n aelod newydd staff ac mae angen i chi casglu eich cerdyn adnabod staff, gweler y wybodaeth am gasglu eich cerdyn adnabod staff ar Fewnrwyd y Staff. Os ydych chi'n fyfyriwr neu aelod staff ac mae angen cerdyn adnabod newydd arnoch, ymwelwch â Desg Gwybodaeth y Llyfrgell yn ystod oriau agor y ddesg, os gwelwch yn dda. Sylwch, codir tal o £4.00 i amnewid cardiau coll neu sydd wedi'u difrodi, a bydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig. |
Dyddiadau Mynediad Cyfyngedig i'r Llyfrgell ar gyfer Ymwelwyr Allanol
Bydd mynediad i adeiladau'r llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gyfyngedig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau Mynediad SCONUL yn unig, yn ystod y cyfnodau canlynol:
Ni threfnir unrhyw gyfnodau mynediad cyfyngedig ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnodau mynediad cyfyngedig, bydd ymchwilwyr yn dal i allu ymweld â Llyfrgell y Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton drwy apwyntiad. Hefyd, caniateir benthycwyr allanol gael mynediad i'r llyfrgell i ddychwelyd eitemau, os oes ganddynt fenthyciadau a bydd yn dod yn ddyledus yn ystod y cyfnod mynediad cyfyngedig.
Y tu allan i Gyfnodau Mynediad Cyfyngedig, gall ymwelwyr ymweld â'n llyfrgelloedd yn ystod oriau agor y desgiau gwybodaeth pan fydd staff ar ddyletswydd yn unig. Gwiriwch ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd ar gyfer y llyfrgell rydych chi am fynd i, am fanylion oriau agor y desgiau gwybodaeth.
Lleoliad y llyfrgell
Ble mae Llyfrgell y Bae?
Lleolir Llyfrgell y Bae ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau i Gampws y Bae ar ein tudalen Sut i Ddod o Hyd i Ni.
Adeilad rhif 5 yw Llyfrgell y Bae, ar y Cynllun Campws y Bae.
Sut i gysylltu â ni
Ein manylion cyswllt
Llyfrgell y Bae
Prifysgol Abertawe
Campws y Bae
Ffordd Fabian
Twyni Crymlyn
Abertawe
SA1 8EN
Ffôn: +44 (0)1792 (60)6400
E-bostiwch Dîm Llyfrgell MyUni