Er bod bwydo ar y fron yn naturiol, nid yw hyn yn golygu y bydd bob amser yn hawdd ar y dechrau. Mae rhai mamau'n canfod ei bod yn cymryd amser i ddysgu sut i glicio gyda’u babi a dod i arfer â phatrwm bwydo eu baban. Gall gofyn am lawer o gefnogaeth gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol, mynd i grwp cymorth bwydo ar y fron neu gysylltu â'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Bwydo ar y Fron am ddim ar 0300 100 0212 gydag unrhyw gwestiynau i’ch helpu. Mae'r rhan fwyaf o famau'n canfod bod bwydo ar y fron yn llawer symlach ar ôl iddynt fynd drwy'r wythnosau cyntaf. Wedi'r cyfan, ni allwch anghofio ei adael gartref ac mae bob amser yn barod ynghanol y nos!

Efallai y gwelwch fod llawer o bobl yn ceisio adrodd straeon negyddol wrthych am sut na allent fwydo ar y fron. Yn aml, os ydych chi'n gwrando'n wirioneddol ar y straeon hyn, fe welwch nad oedd menywod yn cael eu cefnogi'n iawn i fwydo ar y fron. Er y bydd canran fach o fenywod yn ei chael hi'n anodd gwneud digon o laeth o'r fron am resymau iechyd, gall y rhan fwyaf o fenywod sydd â'r cymorth cywir fwydo ar y fron. Os edrychwch ar wledydd eraill ledled y byd, mae bron pob merch yn dechrau bwydo ar y fron ac mae llawer yn parhau nes bod eu plant yn blant bach ac yn hŷn.

Yn anffodus, dengys ein hymchwil bod menywod yn medru wynebu nifer o rwystrau sy’n eu hatal hwy rhag bod yn gallu bwydo ar y fron. Gallai hyn gynnwys teulu a ffrindiau ddim yn eu cefnogi hwy, diffyg cefnogaeth broffesiynol, agweddau cyhoeddus negyddol a phwysau i ddychwelyd i’r gwaith. Yn aml mae menywod yn poeni bod pa mor aml fydd y baban yn deffro neu’n bwydo yn arwydd bod rhywbeth o’i le, ond mae bwydo’n aml a deffro yn y nos yn gyffredin iawn i holl fabis difater sut maent yn cael eu bwydo. Dengys ein hymchwil faint o ddylanwad y mae’r ffactorau yma’n eu cael ac rydym yn galw ar y llywodraeth i wneud newidiadau i wneud gwahaniaeth ar lefel iechyd cyhoeddus (i wasanaethau, buddion a deddfau) sy’n caniatáu i fenywod bwydo ar y fron am hirach.

Dyma pam ei bod yn wirioneddol bwysig ceisio cael cymaint o gefnogaeth â phosibl gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol, grwpiau cefnogi cyfoedion bwydo ar y fron neu gysylltu â'r llinell gymorth os oes gennych unrhyw gwestiynau neu faterion. Gall bod o gwmpas menywod eraill sydd wedi bwydo ar y fron ac yn deall fod yn help gwych.

 

Darganfod mwy: 

 

  • Ymunwch â’n hymgyrch ‘Better breastfeeding’ i alw am fwy o gefnogaeth gyfer bwydo ar y fron.
  • Os oes gennych ddiddordeb darllen mwy am rwystrau seicolegol neu gymdeithasol y mae menywod yn eu hwynebu pan fyddant yn bwydo ar y fron, efallai yr hoffech ddarllen ein llyfr ‘Breastfeeding Uncovered’ sy’n dod ag ymchwil yn yr ardal yma a galwadau am fwy o gefnogaeth i famau sy’n bwydo ar y fron ynghyd.