Partneriaeth

Wrth wraidd ASTUTE 2020 mae pump o brif Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Bu’r pedwar partner yn cydweithio ers 2010 ar brosiect ASTUTE (2010 – 2015), gan ganolbwyntio ar dechnolegau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu, ac maent yn cynnig swyddogion prosiect hynod gymwys ac arbenigedd academaidd o fri er mwyn caniatáu twf trawsffurfiannol a chynaliadwy yn niwydiant gweithgynhyrchu Gorllewin Cymru a’r Cymoedd trwy hwyluso’r broses o fabwysiadu technolegau uwch, cynyddu cystadleurwydd a meithrin cadernid at y dyfodol.