Bydd elfennau Prifysgol Caerdydd o ASTUTE 2020 yn cael eu cyflawni gan bartneriaeth sefydledig a fydd yn cynnwys tri grŵp ymchwil gwahanol, y mae gan bob un ohonynt enw da ei hun yn rhyngwladol am ragoriaeth.
 

  • Thema Mecaneg, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd, Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Logisteg a Rheoli Gweithrediadau, Ysgol Fusnes Caerdydd, Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
  • Partneriaeth Arloesedd Glinigol (Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro), d/o Yr Ysgol Feddygaeth, Coleg y Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol.

Bydd Caerdydd yn darparu mynediad i gwmnïau gweithgynhyrchu at arbenigedd a chyfleusterau y profwyd eu bod ymhlith y gorau yn y byd, a hynny ar draws pob un o’r tair thema arbenigedd allweddol a nodwyd, a bydd yn cynorthwyo gydag arbenigeddau megis:

  • Awyrofod a Moduron
  • Systemau Annibynnol a Roboteg
  • Dylunio a Gweithgynhyrchu
  • Systemau Deallus a Seiliedig ar Wybodaeth
  • Gweithgynhyrchu Micro-Nano
  • Systemau Clyfar
  • Mecaneg gyfrifiadurol
  • Theori rheolaeth linol ac aflinol
  • Saernïo’r gadwyn gyflenwi o’r newydd
  • Gweithgynhyrchu cynaliadwy a’r economi gylchol
  • Logisteg a Pheirianneg y Gadwyn Gyflenwi
  • Diagnosteg a dyfeisiau meddygol

Mae’r cysylltiad agos sydd gan Gaerdydd â diwydiant yn sicrhau bod ymchwil ASTUTE 2020 yn berthnasol ac yn ystyrlon. Mae’r ffocws hwn ar ymchwil gymwysedig yn ein galluogi i weithio gyda rhai o gwmnïau byd-eang enwocaf y byd, a chyfrannu ar yr un pryd at anghenion y rhanbarth lleol trwy gydweithio â Mentrau BaCh.