Mae ychwanegu Prifysgol De Cymru (USW) at bartneriaeth ASTUTE 2020 yn cryfhau’r academyddion deinamig o’r radd flaenaf a’r swyddogion prosiect hynod gymwysedig sy’n perthyn i’r Sefydliadau Addysg Uwch o Gymru sy’n rhan o’r rhaglen honno. Bydd USW yn cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu yn Nwyrain Cymru, gan greu gwybodaeth y gellir ei defnyddio’n sail ar gyfer gweithredu a thywys penderfyniadau yn y broses weithgynhyrchu.  

Mae Prifysgol De Cymru yn cyfrannu at ASTUTE 2020 trwy ei harbenigedd yn Ysgol Fusnes De Cymru, sy’n rhan o’r Gyfadran Busnes a Chymdeithas, ac mae’n defnyddio arbenigedd ar draws yr Ysgol ym meysydd systemau Gweithgynhyrchu, Rheoli Ansawdd, Rheoli Gweithrediadau, Cadwyn Gyflenwi a Logisteg, Marchnata Digidol a Strategaeth Fusnes.

Mae gwaith ymchwil yr Ysgol Fusnes yn cael ei drefnu o dan ganolfan ymchwil fusnes drosfwaol ar draws y disgyblaethau. Mae’r themâu a’r prosiectau ymchwil yn cael eu cydlynu o dan bedwar maes thematig, sef Cadwyn Gyflenwi a Gweithrediadau, Rheoli Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth, Marchnata a Digwyddiadau ac Entrepreneuriaeth.

Mae’r Ysgol yn cefnogi myfyrwyr PhD a DBA sy’n gweithio ar brosiectau ar draws y meysydd thematig hyn.
Bydd USW yn ychwanegu medrusrwydd ymchwil cydweddus oddi mewn i thema arbenigedd Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, gan ganolbwyntio ar ei chryfderau ym maes technolegau gweithgynhyrchu’r dyfodol.  

Mae’r prosiectau ymchwil a’r cyhoeddiadau’n cynnwys y pynciau canlynol:

Cadwyn Gyflenwi a Gweithrediadau

  • Rheoli Ansawdd mewn Diwydiant 4.0
  • Cadwyni cyflenwi cynaliadwy
  • Cadwyn Gyflenwi Pob Sianel Manwerthu (ROSC)
  • Caffael Strategol
  • Arloesedd mewn Mentrau BaCh
  • Model Helics Triphlyg ar gyfer Arloesedd
  • Cymwysiadau BlockChain i’r Dyfodol

Rheoli Adnoddau Dynol ac Arweinyddiaeth

  • Adfywio economaidd a datblygu’r gweithlu
  • Effaith technoleg ar Weithlu’r Dyfodol
  • Diwylliant sefydliadol
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

Entrepreneuriaeth/ Marchnata a digwyddiadau

  • Dadansoddiad o Gwmnïau Twf Uchel
  • Entrepreneuriaeth Ethnig
  • Entrepreneuriaid Benyw
  • Marchnata entrepreneuraidd
  • Cynaliadwyedd ym maes lletygarwch


USW Exchange yw’r canolbwynt ar gyfer creu cysylltiadau ym Mhrifysgol De Cymru, gan mai dyna brif fynedfa’r Brifysgol ar gyfer busnes, ac mae’n cyfeirio ymlaen ac yn caniatáu mynediad at arbenigedd a doniau’r Brifysgol ar draws ein holl adrannau a chyfadrannau.