Bydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cyfrannu at ASTUTE 2020 mewn cydweithrediad â’r Gyfadran Pensaernïaeth, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE) a’r Ysgol Beirianneg, Gweithgynhyrchu a Logisteg ym maes Profion Annistrywiol o dan thema arbenigedd allweddol Modelu Peirianneg Cyfrifiadurol.

Mae PCYDDS yn ymgymryd ag ymchwil, datblygiad ac arloesedd ym maes technegau annistrywiol, mewn cydweithrediad â chwmnïau, er mwyn nodweddu perfformiad deunyddiau a chydrannau yn sector gweithgynhyrchu Cymru. Bydd PCYDDS yn adeiladu ar ei chryfderau yn y meysydd canlynol:

  • Uwchsain
  • Gollyngiad fflwcs magnetig
  • Thermograffi
  • Mesur dirgryniadau sganio Laser Doppler (SLDV)

Gan barhau â’i ymwneud llwyddiannus ag ASTUTE (2010 – 2015), bydd tîm PCYDDS ASTUTE 2020 yn cydweithio â chwmnïau o Orllewin Cymru a’r Cymoedd gan ddefnyddio’i gyfleusterau Profion Annistrywiol a’i dîm ehangach o academyddion arbenigol.