Cwrs Maes Ystagbwll

Mae cwrs maes preswyl Ystagbwll yn cyflwyno myfyrwyr sy’n dilyn “Egwyddorion Deinameg Amgylcheddol” i rai o brif themâu’r modiwl: systemau amgylcheddol, newid yn lefel y môr ac effaith ddynol ar yr amgylchedd, mewn lleoliad cydnaws yn Sir Benfro. Caiff y materion amgylcheddol sy’n wynebu Ystâd Ystagbwll eu trafod a’u gosod mewn persbectif hanesyddol trwy ddarlithoedd a thrwy ddadansoddi cofnodion amgylcheddol tymor hir.

Trafodir materion Palaeoamgylcheddol wrth ymweld â Chors Goch yn Llanllwch.  Mae’r ffioedd dysgu yn talu am gostau’r gwaith maes ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r cwrs MSc mewn Dynameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd.  

Arweinydd Gwaith Maes

Mae Llynnoedd Bosherston yn Ystagbwll yn nodweddion a wnaed gan ddyn, wedi’u creu gan y perchnogion gwreiddiol o 1760 ymlaen drwy adeiladu cyfres o argaeau, llifddorau a gatiau fesul cam. Mae'r llynnoedd dŵr croyw hyn ar lwyfandir calchfaen yn cael eu hail-lenwi gan nentydd a dŵr daear sy'n cyrraedd dyfnder uchaf o tua 2.5m yn y gaeaf.Mae’r her amgylcheddol o geisio cynnal ansawdd y dŵr yn ogystal â lleihau lefelau maetholion yn rhan allweddol o’r trafodaethau yn Ystagbwll. Mae’r ffotograffau’n dangos y llety yng Nghanolfan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ystagbwll;  Llynnoedd Bosherston yn dangos siltio'r Fraich Ddwyreiniol Uchaf, samplu dŵr yn Llynnoedd Bosherston, lefelau llynnoedd cyfnewidiol a Church Rock o Draeth Broad Haven.

Cors Goch yn Llanllwch yw un o’r llond llaw o gyforgorsydd yng Nghymru.  Mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n cynnwys cofnod mawn pum metr o ddyfnder sy'n rhychwantu'r 8,000 o flynyddoedd diwethaf. Trafodir pwysigrwydd palaeoamgylcheddol y safle mewn perthynas â materion amgylcheddol ehangach a cheir profiad ymarferol gan ddefnyddio tyllwr Rwsiaidd i gael creiddiau mawn.

Lluniau gan Dr Iain Robertson

Myfyrwyr yn eisted mewn ystafell yn gweithio ar gliniaduron
Afon gyda phont yn y pellter
Pont dros y nant ger Ystagbwll
Myfyrwyr yn edrych dros bont
Profi dŵr gyda'r Athro Street-Perrott
Myfyrwyr ar y traeth gyda'r Athro Neil Loader
Myfyrwyr ar y traeth
Robin yn eistedd ar arwydd pren ar gyfer Broadhaven