Steve Dimmick

Steve Dimmick

Peirianneg gemegol a biocemegol, M.ENG

Prif Swyddog Gweithredol DooPoll. Mae Steve yn entrepreneur ar ôl sefydlu a chynnal ei fusnes recriwtio a'i wasanaeth ymgynghori creadigol ei hun.

Sefydlwyd DooPoll i alluogi cwmnïau i gael adborth gan staff, ac maen nhw bellach yn gweithio gyda chwmnïau megis Royal Bank of Scotland, O2, Legal & General a Barclays. Yn ei amser hamdden, mae Steve yn cynnal clwb llyfrau a chlwb ffilmiau o Theatr Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd lle mae'n gwirfoddoli.

Fel y rhan fwyaf o bobl y des i'n ffrindiau â nhw yn ystod fy amser yn Abertawe, rwy'n tueddu i ddweud mai dyma a'm gwnaeth yn fi fy hun. Mae'n lle gwych i ddysgu. Cewch ddysgu am eich pwnc dewisol yn ogystal â bywyd, a chi eich hun am wn i. Roeddwn i wrth fy modd â chael annibyniaeth a dod i gwrdd â phobl o gefndiroedd hollol wahanol. Nid oedd yn hawdd - does dim byd gwerth chweil yn hawdd - ond rwy'n credu mai bod yn agored ac yn chwilfrydig am ddarganfod profiadau newydd a'm galluogodd i fanteisio i'r eithaf ar fy amser yn Abertawe. Roeddwn i'n byw ar y campws yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Ystafell 412 yn Sibly: mae hyd yn oed ei ysgrifennu wedi dod â gwên i'm hwyneb. Yn ystod fy ail flwyddyn, roeddwn i'n rhannu gyda 5 bachgen arall yn Stryd Westbury, yn agosach at y dref, ond roedd dal yn hwylus cerdded i'r Brifysgol. Oherwydd bod rhai o'r bechgyn wedi gwneud blwyddyn dramor, arhosais yn ardal Brynmill yn ystod fy nhrydedd flwyddyn ac yna symudais i ardal hardd y Mwmbwls ar gyfer blwyddyn olaf fy ngradd Meistr.

Fy atgof diffiniol o Abertawe yw'r ffrindiau hyd oes y gwnes i a bod gyda nhw yn yr awyr agored. Boed yn y môr neu ar draethau Caswell neu Oxwich, ar gaeau Lôn Sgeti neu Fairwood, ar y gwair y tu allan i Dŷ Fulton, crwydro ar hyd y promenâd yn ôl o'r dref, neu fwynhau Milltir y Mwmbwls yn ystod tymor yr haf.

Graddiais ym 1998 ac roeddwn i'n ddigon ffodus i gael swydd yn aros imi (drwy wneud y rownd laeth) ar y Cynllun Rheoli i Raddedigion gydag Atkins - un o gwmnïau ymgynghori peirianneg mwyaf y byd, ac roeddwn i'n gweithio yn eu swyddfeydd yn Llundain. Fy rôl oedd asesu a gwneud y gorau o systemau diogelwch ar gyfer rigiau olew. Bron yn syth bin, roeddwn i'n defnyddio'r union beth roeddwn i wedi bod yn astudio dros y pedair blynedd flaenorol yn y byd go iawn. Roedd y gwaith yn eithaf ailadroddus serch hynny, ac nid oedd mor amrywiol ag yr oeddwn wedi gobeithio; roeddwn i'n ymgynghori mwy â thaenlenni Excel na phobl. Ar ôl 12 mis, roedd cwmni newydd ei sefydlu wedi dod ataf a oedd eisiau mentro ar siawns a'm penodi fel yr ail berson i weithio iddyn nhw. Croeso i fyd recriwtio! Cefais drafferthion i ddechrau, ond gydag amser dechreuais gael fy nghefn ataf ac yn 2004, ar ôl cwrdd â'm darpar-wraig a gofyn iddi fy mhriodi, penderfynais symud yn ôl i Gymru ac agor swyddfa o bell gyntaf y cwmni. Bu'r argyfwng bancio yn 2009, ac yn anffodus, roedd yn rhaid i'r cwmni gael gwared â bron bob aelod o'i staff. Fel un o'r ychydig staff a oedd yn weddill a bellach gyda 2 o blant i fwydo hefyd, penderfynais fy mod i eisiau rheoli fy nhynged fy hun, felly sefydlais fy nghwmni fy hun. Sefydlais asiantaeth recriwtio gyntaf y DU i gynnig hysbysebion swyddi fideo. Aeth hyn yn dda a mwynheais sawl blwyddyn o gynnal busnes ffordd o fyw a'm galluogodd i gludo fy mhlant i'r ysgol a'u casglu. Yn 2013, daeth ein trydydd plentyn i'r byd ac ar yr un pryd, sylweddolais fy mod i eisiau 'rhywbeth arall' ar ôl 15 mlynedd yn y byd recriwtio.

Daeth fy mhartner busnes yn DooPoll sef Marc ataf, i drafod sefydlu cwmni ymgynghori cyfathrebiadau creadigol ac yn 2014, gwnaethom sefydlu Small Joys.

Gwnaethom sylweddoli drwy Small Joys fod angen i gwmnïau allu ymgynghori â’u staff a chael adborth a barn onest, a dyma sut daeth DooPoll i fodolaeth. Erbyn hyn, 4 mlynedd ar ôl adeiladu prototeip mewn llai nag wythnos, rydym wedi codi miloedd ar filoedd o bunnoedd o fuddsoddiad, wedi denu cleientiaid mor amrywiol â Royal Bank of Scotland, O2, Llywodraeth Cymru, Legal & General, Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a llawer llawer mwy. Erbyn hyn mae gan DooPoll ddefnyddwyr mewn bron mil o ddinasoedd ledled y byd, a byddwn yn derbyn y miliwnfed ymateb dros y misoedd nesaf i'r miloedd o gwestiynau sydd wedi'u holi drwy ein platfform ar y we.

Mae dyfyniad gwych yn y Gymraeg, y byddwn wedi dymuno cael esboniad ohono pan oeddwn i'n Abertawe: “Deuparth gwaith yw ei ddechrau” 

Cyngor Steve i fyfyrwyr presennol:

Yn syml, dechreuwch. Dechreuwch eich busnes nawr. Peidiwch ag aros nes i'ch cwrs orffen, neu pan fo pob darn bach o waith papur yn ei le. Ymddiriedwch ynoch chi a'ch syniad. Dechreuwch. Dechreuwch nawr.